Cwblhau Cam 1 o Safle Cyflogi Strategol Glan yr Harbwr

0
304
Mark Bowen (Managing Director, Andrew Scott) and Cllr Ted Latham (Leader of Neath Port Talbot Council) Image by Martin Ellard -www.martinellardphotography.co.uk

Mae gwaith ar adfywio Safle Cyflogi Strategol Glan yr Harbwr yn hen ardal y dociau, Port Talbot, yn mynd yn ei flaen yn dda, a ddydd Gwener (Awst 13 2021) ymwelodd aelodau blaenllaw o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac eraill â’r safle i weld y gwaith sydd ar y gweill drostynt eu hunain.

Mae’r gwaith adfywio’n cynnwys adfer hen safle tir llwyd, adeiladu ffordd fynediad, uwchraddio’r priffyrdd presennol, mesurau lliniaru llifogydd ac estyniad i’r maes parcio ger Gorsaf Reilffordd Parkway Port Talbot.

Y gwelliannau hyn fydd y sbardun ar gyfer ailddatblygu hen ardal dociau’r dref yn ganolfan fusnes a diwydiant ffyniannus a fydd yn denu mwy o fuddsoddi preifat gan helpu i yrru twf mewn cyflogaeth. Bydd y safle’n manteisio’n llawn ar ei agosrwydd at ganol y dref a chysylltiadau trafnidiaeth o’r radd flaenaf.

Ers i’r gwaith ddechrau ym mis Mawrth, mae’r contractwyr a leolir ym Mhort Talbot, Andrew Scott, bellach wedi cwblhau’r Mesurau Lliniaru Llifogydd o dan Ffordd yr Harbwr. Hefyd mae gwaith adfer ar y safle datblygu wedi digwydd yn gynt na’r disgwyl ar Ffordd Cramic, a bydd gwaith ar Feysydd Parcio’r Parkway yn dechrau cyn diwedd y mis hwn. Bydd systemau rheoli trafnidiaeth leol yn cael eu defnyddio yn ystod cyfnod gwneud y gwaith hwn a diolchir i fodurwyr am eu hamynedd parhaus.

Mark Bowen (Managing Director, Andrew Scott) and Cllr Ted Latham (Leader of Neath Port Talbot Council) Image by Martin Ellard -www.martinellardphotography.co.uk

Yn ogystal â’r gwaith adfywio parhaus, mae’r prosiect yn cynhyrchu Buddion Cymunedol ac mae’n cefnogi’r gymuned leol a’r gadwyn gyflenwi. Ymysg yr hyn a gyflawnwyd mae:

Helpu nifer o bobl leol i fynd i mewn i waith, gan gynnwys profiad gwaith i bobl ifanc lleol a NEETs (Nid mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant) mewn partneriaeth â Chanolfan Sgiliau a Hyfforddiant NPTCBC Tir Morfa a rhaglen profiad gwaith Hwb Sgiliau Adeiladu Ar y Safle Cyfle.

Creu cyfle Prentisiaeth Gweithredwr Adeiladu Peirianneg Sifil i breswylydd 17 oed o Bort Talbot.

Penodi Grŵp Menter Gymdeithasol Thrive Cymru Port Talbot yn lanhawyr Swyddfa’r Safle a Llesiant. Bydd pob elw o Grŵp Thrive Cymru’n cael ei ddosbarthu i Gymorth i Fenywod Thrive, er mwyn helpu menywod, plant a theuluoedd a effeithiwyd gan gam-drin domestig.

Cefnogaeth barhaus Banc Bwyd Port Talbot, gan gynnwys apêl lwyddiannus am Wyau Pasg, a arweiniodd at weld Andrew Scott Ltd yn rhoi dros 300 o wyau Pasg i’r Banc Bwyd a rhoi rhodd o £1,000 i Gronfa Gymunedol Ysgol Cwm Brombil i gefnogi plant a’u teuluoedd â bwyd, dillad a hanfodion eraill.

Cefnogaeth barhaus Apêl Goleuadau Nadolig Port Talbot gan gynnwys rhoi bariwns rheoli torfeydd i warchod y coed Nadolig a leolir yn y Ganolfan Ddinesig ac ar yr Hwb Trafnidiaeth, ynghyd â chefnogaeth i Raglen Gyfoethogi Gwyliau Ysgol CCPT (SHEP) gyda’r Prosiect Poster Mawr Glan yr Harbwr yn seiliedig ar themaCymuned, Hunaniaeth a Chymru Wyrddach, Iachach”.

80% o’r gweithlu’n dod o fewn 40 milltir i’r safle, gyda 96% o’r gweithlu’n byw yng Nghymru a gwariant hyd yn hyn o 67% yn digwydd yng Nghymru, gyda chyfran sylweddol yn cael ei gwario oddi fewn i Gastell-nedd Port Talbot.

Bwriedir gweld y prosiect yn dod i ben ym mis Mawrth 2022.

Strategic-Employment-harbourside-010 (left to right): Katie John (Community Benefits Coordinator, Andrew Scott), Claire Roach (Community Benefits Officer), Ken Stacey (Bid and Cost Manager, Neath Port Talbot Council), Bill Pugh (Contracts Manager, Andrew Scott), Mark Bowen (Managing Director, Andrew Scott), Cllr Ted Latham (Leader of Neath Port Talbot Council), Karen Jones (Chief Executive, Neath Port Talbot Council), Nicola Pearce (Director of Environment, Neath Port Talbot Council), and Dave Griffiths (Head of Engineering and Transport, Neath Port Talbot Council).Image by Martin Ellard -www.martinellardphotography.co.uk

Mae’r cynllun gwella wedi sicrhau gwerth £2.7m o gyllid gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn dilyn cyllid sylweddol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y gwaith adfywio gan gynnwys 354m ar gyfer ffordd gyswllt Ffordd yr Harbwr â’r M4, £7.5m yng nghanolfan ymchwil peirianneg TWI, a £2.5m yn Hwb Trafnidiaeth Integredig newydd y dref.

Ymysg y rhai a oedd yn bresennol ar gyfer ymweliad dydd Gwener â’r safle roedd: Katie John (Andrew Scott), Claire Roach (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), Ken Stacey (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), Bill Pugh (Andrew Scott), Mark Bowen (Andrew Scott), Cllr Ted Latham (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), Karen Jones (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), Nicola Pearce (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), and Dave Griffiths (Cyngor Castell-nedd Port Talbot).

Yn ôl y Cynghorydd Ted Latham, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’n gyffrous gweld â’m llygaid fy hun y gwaith sy’n digwydd ar safle Cyflogi Strategol Glan yr Harbwr a fydd yn sbardun ar gyfer gwaith Cyngor Castell-nedd Port Talbot o ailddatblygiad hen ddociau’r dref yn ganolfan fusnes a diwydiant ffyniannus ar lan y dŵr, gyda chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, gan ddenu mwy o fuddsoddi preifat er mwyn helpu i yrru cynnydd mewn cyflogaeth.”

Ychwanegodd Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr gydag Andrew Scott Limited: Fel cyflogwr lleol o bwys, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu mentrau sy’n cyfrannu’n gadarnhaol i lesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Castell-nedd Port Talbot. Drwy gyflawni’r prosiect hwn ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gallwn barhau â’n dull hirdymor o greu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi cynaliadwy ar gyfer pobl leol.”

Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy: “Dyma brosiect eithriadol bwysig sy’n hanfodol ar gyfer  datblygiad parhaus Glan yr Harbwr, Parth Menter Glan y Dŵr, Port Talbot a Dinas-ranbarth Bae Abertawe’n ehangach gyda’i phrosiectau amrywiol, gan gryfhau dichonolrwydd y lle fel cyrchfan i fyw a gweithio ynddo, yn ogystal â chreutir datblygu yn yr ardal i gwrdd â’r galw am fuddsoddi am i mewn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle