Elusennau Iechyd Hywel Dda ar sedd addasadwy newydd a brynwyd ar gyfer uned gofal lliniarol arbenigol Tŷ Bryngwyn yn Ysbyty’r Tywysog Philip

0
256
Adjustable seat Ty Bryngwyn - Marlene Thomas

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu sedd addasadwy o radd uchel ar gyfer Uned Gofal Lliniarol Arbenigol Bryngwyn yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.

Mae’r gadair SmartSeat yn darparu’r gynhaliaeth fwyaf, mae’r sedd gyfan yn gallu gogwyddo ac mae modd gorwedd yn ôl arni’n llwyr. Mae ganddi briodweddau lleddfu pwysau ar yr holl elfennau sy’n cynnal y corff.

Dywedodd Marlene Thomas (yn y llun), sy’n Nyrs Glinigol Gofal Lliniarol Arbenigol, fod y gadair newydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion nad oeddent yn gallu eu cynnal eu hunain.

“Mae hon yn gadair o’r safon uchaf a gellir ei haddasu yn unol ag anghenion unigol pob claf. Mae’n cynnal y corff cyfan ac mae o fudd enfawr pan nad oes gan gleifion gryfder i eistedd yn unionsyth.

Diolch i’r gadair hon, mae cleifion a oedd gynt yn gaeth i’r gwely yn gallu treulio oriau yn y gadair, yn eistedd y tu allan, gan wneud rhywfaint o arddio cadair freichiau a mwynhau’r awyr iach.

Mae’r canlyniadau wedi bod yn eithriadol ac rydym yn ddiolchgar iawn am y rhoddion gan y gymuned sydd wedi ein galluogi i brynu’r gadair.”

Yn ôl Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae rhoddion gan ein cymunedau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cleifion, defnyddwyr y gwasanaeth a’r staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Os hoffai unrhyw un godi arian neu gyfrannu, gallant fynd i wefan www.justgiving.com/hywelddahealthcharities neu glicio ar y botwm glas ‘Donate’ ar frig ein tudalen Facebook.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle