Wrth ymateb i ffigurau newydd gan Rightmove sy’n dangos bod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tai yn y DU, dywedodd Llefarydd Tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS,
“Pe bai angen prawf pellach arnom fod Cymru yng nghanol argyfwng tai yna dyma ni.
“Mae Cymru wedi gweld cynnydd o 2.3% ym mhrisiau tai yn ystod y mis diwethaf yn unig a chynnydd o 10.9% flwyddyn ar Ă´l blwyddyn yn gyffredinol. Mae pobl yn cael eu prisio allan o’u cymunedau ar gyflymder brawychus.
“Ac nid y Gymru wledig ac arfordirol yn unig sy’n dioddef. Mae’r cymoedd hefyd.
Mae enillion wythnosol gros canolrifol yn Torfaen, er enghraifft, yn ddim ond ÂŁ554.58 ond mae wedi gweld un o’r cyfraddau gwerthu uchaf ar 80%. Yn y cyfamser, mae disgwyl i bobl ifanc roi miloedd o bunnoedd mewn taliadau er mwyn bod a siawns o brynu eu cartref cyntaf yn eu cymuned leol. Mae’n afrealistig, yn annheg, ac yn gwbl anghynaladwy.Â
“Yn syml, nid yw’r farchnad dai yn adlewyrchu gallu pobl leol i brynu cartrefi yn eu cymunedau. Ni all y Llywodraeth gladdu eu pennau yn y tywod na chuddio tu ol i “ymgynghoriadau” neu “gynlluniau peilot”. Mae angen ymyrraeth frys arnom – yn gyflym – i reoleiddio’r farchnad a mynd i’r afael â’r argyfwng hwn unwaith ac am byth, er mwyn ein cymunedau a’u dyfodol.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle