Weatherman Walking yn ymweld â Thyddewi ar gyfer digwyddiad arwyddo llyfrau

0
304
Capsiwn: Bydd y dyn tywydd poblogaidd o Gymru, Derek Brockway, yn llofnodi copïau o Weatherman Walking – The Welsh Coast yn Oriel y Parc ddydd Sadwrn yma rhwng 1.30pm a 2.30pm.

Bydd y dyn tywydd poblogaidd, Derek Brockway, yn dathlu lansio ei lyfr diweddaraf mewn digwyddiad arwyddo llyfrau a gynhelir yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc ddydd Sadwrn 21 Awst rhwng 1.30pm a 2.30pm.

Cyhoeddwyd Weatherman Walking – The Welsh Coast ym mis Mai i gyd-fynd â’r deuddegfed gyfres o raglen boblogaidd y BBC, sy’n cael ei chynnal gan y dyn tywydd poblogaidd, Derek Brockway.

Mae’r llyfr yn cynnwys cyfres o deithiau tywys o amgylch Arfordir Cymru, gan gynnwys nifer yn Sir Benfro, ynghyd â mapiau o’r llwybrau (OS), gwybodaeth hanfodol i gerddwyr a llwyth o wybodaeth gefndir ddiddorol am y tirnodau a’r gweithgareddau lleol anghyffredin y gellir eu gweld ar hyd y ffordd.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr troed di-dor sy’n dilyn ei morlin cyfan – 870 milltir neu 1,400 km o hyd. Dathlodd Llwybr Arfordir Penfro, a ddisgrifiwyd gan Lonely Planet fel “un o’r llwybrau pellter hir gorau yn y byd”, ei ben-blwydd yn 50 oed y llynedd. Gan ymestyn o Llandudoch yng ngogledd y sir i Amroth yn y de, mae’r llwybr 186 milltir o hyd yn mynd drwy amryw o dirweddau morol ysblennydd a safleoedd o ddiddordeb archeolegol.

Meddai Rheolwr Oriel y Parc, Claire Bates: “Rydym yn hynod falch o fod yn cynnal digwyddiad arwyddo llyfrau Derek Brockway ddydd Sadwrn yma. Nid oes angen archebu ymlaen llaw, ond cynghorir ymwelwyr y bydd cyfyngiadau Covid-19 mewn grym.

“Dylai’r rheini nad ydynt yn gallu dod i’r digwyddiad gysylltu ag Oriel y Parc ymlaen llaw i gadw eu copi wedi’i lofnodi o Weatherman Walking – The Welsh Coast.

I gael gwybod am ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn Oriel y Parc dros wyliau’r haf a thu hwnt, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/location/oriel-y-parc/.

Cyhoeddir Weatherman Walking – The Welsh Coast (Derek Brockway a Julia Foot) gan Y Lolfa gyda phris gwerthu o £9.99. Ei ISBN yw 9781912631216.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle