Elusennau Iechyd Hywel Dda ar fonitor cleifion newydd ar gyfer ward plant yn Ysbyty Bronglais

0
333
Yn y llun gyda’r monitor newydd mae (o’r chwith) Uwch Brif Nyrs Louise Hughes a myfyrwraig nyrsio Brooke Davidson.

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu monitor claf newydd ar gyfer ward plant yn Ysbyty Bronglais.

Mae’r monitor IntelliVue MX450 yn cael ei ddefnyddio yn barod, ac yn helpu i ofalu am bobl ifanc ar ward Angharad yn Aberystwyth.

Mae’r monitor yn ddull cyflym, di-boen ac anymwthiol o ddiagnosis, yn mesur cyfradd curiad y galon ac allbwn cardiaidd.

Dywedodd Uwch-brif nyrs Louise Hughes “Mae’r monitorau o fudd i’r plentyn gan eu bod yn ein galluogi i fonitro’n agosach.

“Drwy gael y monitorau, mae’n rhoi capasiti ychwanegol i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r teuluoedd sydd yn meddwl amdanom wrth godi arian. Mae’n gwneud gwahaniaeth aruthrol.”

Mae pob ceiniog sy’n cael ei roi i Elusennau Iechyd Hywel Dda yn mynd i helpu cleifion a staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Os hoffech godi arian neu roi, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle