Elusennau Iechyd Hywel Dda ar fwy o godi arian gan Gwyndaf Lewis, a gollodd ei fam i COVID

0
483
Gwyndaf Lewis and his mum Undeg

Mae’r codwr arian Gwyndaf Lewis o Efailwen, a gododd £37,000 enfawr y llynedd ar gyfer Ysbyty Glangwili er cof am ei fam, Undeg, ar ôl iddi farw yn anffodus o COVID-19, wedi gwisgo ei siorts rhedeg eto i godi mwy o arian.

Y tro hwn, roedd Gwyndaf, 26, yn rhedeg ac yn beicio 96 milltir mewn tri diwrnod, o amgylch holl glybiau CFfl yn Sir Benfro, gan godi £2,258 a rannwyd rhwng yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Glangwili a’r CFfl.

Gwyndaf Lewis and his mum Undeg

Yn gyfan gwbl, mae Gwyndaf wedi codi £38,388 anhygoel i’r Uned Gofal Dwys yn ystod y 12 mis diwethaf er cof am ei fam, a oedd yn ddim ond 59 oed.

Gwelir Gwyndaf yn cyflwyno siec o £1,043.63 I Brif Nyrs Tammy a Nyrs Caitlin Cadwalder.

Dywedodd Gwyndaf: “ Bob blwyddyn, rydw i’n ymgymryd â nifer o heriau i godi arian mawr ei angen ar gyfer wahanol elusennau sy’n agos at fy nghalon.

Gwyndaf Lewis and his mum Undeg

“Y tro hwn, gosodais yr her i mi fy hun o feicio a rhedeg o amgylch 12 clwb CFfl Sir Benfro.

“Rydw i mor falch fy mod i wedi codi cymaint o arian ar gyfer yr Uned Gofal Dwys yn Glangwili, lle rhoddodd y staff ofal mor dda i’m mam.

“Mae hon yn gymuned mor ofalgar rydyn ni’n byw ynddi, Efailwen a Chrymych gerllaw. Mae’r gefnogaeth a gefais wedi bod yn anghredadwy.”

Dywedodd y Brif Nyrs Tammy Bowen, o’r ICU yn Ysbyty Glangwili: “Hoffem ddiolch I Gwyndaf am ei holl weithgareddau codi arian anhygoel dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd yr arian y mae wedi’i godi yn helpu tuag at gyllid i’r cleifion yn ITU. Ni allwn ddiolch digon iddo am ei haelioni a’i ymdroddiad.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle