Dŵr Cymru’n Cymryd Camau Pendant i Fynd i’r Afael â Newid Hinsawdd

0
276

Dwr Cymru Welsh Water News

Mae Dŵr Cymru wedi datgelu bod y newid yn yr hinsawdd yn dal i effeithio ar y ffordd y mae’n cyflenwi gwasanaethau hanfodol ledled Cymru ac yn Swydd Henffordd, ac y bydd yn dal ati i ddatgarboneiddio ei waith ar ei ‘Daith i Sero erbyn 2040’ fel rhan o’r frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae hyn yn dilyn adroddiad yr IPCC yn ddiweddar a alwyd yn ‘god coch i ddynoliaeth’, gan ddatgelu bod newid yn yr hinsawdd eisoes yn amharu ar y Deyrnas Unedig, gyda chynnydd mewn glawiad, heulwen a thymereddau. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng newid hinsawdd yn 2019 ac, eleni, ffurfiwyd ei gweinyddiaeth newid hinsawdd gyntaf. Mae Dŵr Cymru’n awyddus i ddal i gydweithio’n agos â honno fel rhan o ymdrechion Tîm Cymru.

Mae Dŵr Cymru, a gyhoeddodd ei darged ‘sero-net erbyn 2040’ ym mis Mehefin, wedi gweld effeithiau eithafol newid yn yr hinsawdd drosto’i hunan. Treuliodd y degawd diwethaf yn ceisio atal yr effeithiau trwy ostwng ei allyriadau ei hunan, defnyddio ynni’n fwy effeithlon, a buddsoddi mewn dulliau arloesol. Ym mis Gorffennaf, cafodd Cymru ei rhybudd oren cyntaf erioed am wres, cafwyd sychder yn 2018 a daeth Storm Dennis yn 2020, ac mae’r newidiadau hyn yn cael cryn effaith ar y seilwaith dŵr a dŵr gwastraff.

Mae’r cwmni dŵr nid-er-elw yn rhan o ddiwydiant sydd wastad wedi bod yn un ynni-ddwys wrth ddarparu ei wasanaethau hanfodol, ac mae datgarboneiddio’n mynd i fod yn dipyn o her iddo. Mae Dŵr Cymru’n benderfynol weithredu’n eofn a gostwng ei allyriadau ei hunan ac mae eisoes wedi cymryd camau bras i sicrhau allyriadau sero-net, gyda thargedau uchelgeisiol at y dyfodol:

  • 2021: Mae Dŵr Cymru’n cynhyrchu 23% o’r ynni y mae ar y cwmni ei angen – ynni gwynt, dŵr, haul a threulio anaerobig datblygedig (AAD) – ac mae’n cael y gweddill o ffynonellau ynni adnewyddadwy 100%.
  • 2025: Bydd yn buddsoddi £21 miliwn arall er mwyn cynhyrchu 35% o’r ynni y mae arno’i angen erbyn 2025.
  • 2030: Bydd yn gostwng cyfanswm yr allyriadau carbon 90%
  • 2050: Bydd yn hollol hunangynhaliol o ran ynni – neu’n ynni-niwtral.

Mae gan Dŵr Cymru bartneriaethau â nifer fawr o arbenigwyr byd-eang a sefydliadau academaidd fel rhan o’i broses arloesi ‘iLab’, ynghyd â chysylltiadau trwy’r broses hon â busnesau a Phrifysgolion yng Nghymru. Dros y pum mlynedd nesaf, buddsoddir £50m mewn ymchwil ac ar arloesi newydd i wynebu heriau hirdymor. Targedir llawer o hyn at fabwysiadu technolegau carbon isel. Rhwng nawr a 2040, hefyd, bydd y cwmni’n parhau i ddarparu atebion ar sail natur trwy ei gynllun bioamrywiaeth, plannu coed, adfer mawndiroedd, trin gwlyptiroedd a rheoli dalgylchoedd er mwyn gwella’r amgylchedd a dal carbon.

Mae cynllunio ac addasu gwasanaethau ar gyfer y tymor hir yn rhan hanfodol o’r strategaeth. Wrth i’r blaned barhau i gynhesu, bydd newid yn yr hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol fel cyfnodau o dywydd poeth iawn a llifogydd. Mae Dŵr Cymru yn paratoi asedau a gwasanaethau ar gyfer y newidiadau a ddaw yn sgil tywydd o’r fath a’i effeithiau ar y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys ei brosiect draenio cynaliadwy arloesol, GlawLif, yn Llanelli a Thregŵyr. Buddsoddiad gwerth £115 miliwn yw hwn i geisio sicrhau bod cymunedau’n llai tebygol o ddioddef llifogydd.

Yn 2018, ni chafwyd llifogydd yn y rhan fwyaf o Lanelli yn ystod Storm Callum, diolch gynllun Dŵr Cymru, GlawLif. Heb GlawLif, mae’n debygol y byddai dros 100 o gartrefi wedi dioddef llifogydd.

Dywedodd Peter Perry, Prif Swyddog Gweithredol Dŵr Cymru:

“Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad i fodolaeth cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’n rhy hwyr i ddad-wneud rhai o’r newidiadau. Mae’n frwydr fyd-eang, sy’n gofyn am weithredu eofn. Mae angen i ni, cwmni dŵr nid-er-elw Cymru, arwain y ffordd a chymryd cyfrifoldeb am reoli her fwyaf ein hoes, gan ganolbwyntio ar y tymor hir a sicrhau ein bod yn helpu i amddiffyn ein cwsmeriaid, ein cymunedau a’r amgylchedd ehangach wrth wneud y peth iawn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn gwybod bod ein cwsmeriaid yn poeni am newid yn yr hinsawdd ac yn cefnogi camau cryfach i’w atal. Mae angen i ni gydweithio â phartneriaid, arbenigwyr, cwsmeriaid a chymunedau i ganfod atebion newydd ac i weithio mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol. ”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle