Elusennau Iechyd Hywel Dda am fenyw o Sir Benfro yn codi arian marathon

0
327
Betsan Ifans London Marathon

Mae nyrs feithrin Betsan Ifans yn dathlu 21 mlynedd o weithio i’r GIG lleol trwy gymryd rhan yn Farathon Llundain rhithwir eleni a chodi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Mae Betsan, o Heol Clarbeston yn Sir Benfro, yn gweithio yn Ganolfan Iechyd Abergwaun ac mae hi eisiau i’r holl arian y mae hi’n ei chodi i fynd i Wasanaethau Canser Plant Sir Benfro ac i Gronfa Canser y Fron Sir Benfro.

Dywedodd: “ Fel aelod o staff roeddwn i eisiau her ac i roi rhywbeth nôl gan fy mod i wedi gweithio am y bwrdd iechyd am 21 mlynedd.

Rwy’n dathlu fy mhen-blwydd yn 40 oed yn fis Orffennaf, felly mae cael cyfle i wneud y marathon rhithwir yw’r anrheg pen-blwydd GORAU!”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

Mae Marathon Llundain Virgin Money yn digwydd ar 3ydd o Hydref ac mae gan ymgeiswyr 23 awr, 59 munud a 59 eiliad i gwblhau’r 26.2 milltir mewn lleoliad o’u dewis.

Gallwch gyfrannu at her Betsan yma www.justgiving.com/Betsan-Ifans


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle