Haf o Hwyl yn parhau ledled Cymru

0
392

Welsh Government News

Mae plant a phobl ifanc yn cael cymorth i ddod atynt eu hunain ar ôl y pandemig drwy gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol a gweithgareddau chwarae dros yr haf.

Mae’r rhaglen Haf o Hwyl wedi bod yn hynod boblogaidd, gyda nifer o’r gweithgareddau ledled Cymru yn orlawn. Mae’r fenter hon, sydd werth miliynau o bunnoedd yn rhan o gyfres o fesurau a gynlluniwyd i helpu plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed i ddod atynt eu hunain ar ôl y pandemig.

Mae’r digwyddiadau am ddim, sy’n cael eu cynnal tan 30 Medi, wedi bod yn darparu gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol i gefnogi lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc.

Ddoe bu Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn tri digwyddiad Haf o Hwyl yn Rhondda Cynon Taf. Roeddent yn cynnwys Sioe Deithiol Chwarae Cymru ym Mharc Mount Pleasant , Amser Hwyl i Deuluoedd ym mhentref Porth a digwyddiad Turn Up and Play o dan ofal Gwasanaeth Ieuenctid YEPS yn Nhonyrefail. Roeddent yn cynnwys ddigwyddiadau i blant a phobl ifanc megis gemau, celf a chrefft, a chestyll bownsio, i greu ardaloedd i bobl ifanc, gyfarfod â ffrindiau, a chwrdd â gweithwyr ieuenctid.

Wrth siarad yn ystod y tri digwyddiad yn ardal Rhondda Cynon Taf, dywedodd y Dirprwy Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Ar ôl colli cyfleoedd dros y 18 mis diwethaf i gymdeithasu a chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion, rwy’n falch iawn o weld faint o blant a phobl ifanc sy’n mwynhau’r holl wahanol weithgareddau sy’n digwydd diolch i Haf o Hwyl.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn diogelu ac yn meithrin lles ac iechyd corfforol ac emosiynol ein plant a’n pobl ifanc. Mae’r digwyddiadau a welais heddiw yn enghreifftiau gwych o sut y gallwn gefnogi’r anghenion hyn a helpu plant a pobl ifanc i fagu hyder, i ailafael mewn addysg a dysgu ac ymdrechu i gyrraedd eu potensial llawn.

“Diolch i bawb sydd wedi helpu i wneud yr Haf o Hwyl y llwyddiant ysgubol.”

Dywedodd y Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Gwasanaethau Plant:

“Roeddwn yn falch iawn o gael mynd gyda’r Dirprwy Weinidog o amgylch ein prosiectau Haf o Hwyl yn ein Bwrdeistref Sirol.

“Mae’r pandemig a’i gyfyngiadau wedi cael effaith fawr ar fywydau pob un ohonom, ac mae’r effaith ar blant a phobl ifanc wedi bod yn amlwg iawn.

“Doedd dim modd iddynt fynd i’r ysgol am gyfnodau hir, a gall hynny gael effaith sylweddol ar ddatblygiad cymdeithasol a lefelau gweithgarwch yn ogystal â dysgu. Mae llawer hefyd wedi methu â chwrdd wyneb yn wyneb neu gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau.

“Mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol wedi bod yn broblemau gwirioneddol dros y 18 mis diwethaf ac mae cynllun Haf o Hwyl yn cefnogi ein plant a’n pobl ifanc, gan eu galluogi i gysylltu â’i gilydd ac â’r byd y tu allan unwaith eto, a hynny drwy amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle