Blaenoriaethu profion gwaed sydd eu hangen ar frys

0
506

Ar hyn o bryd mae prinder rhyngwladol o diwbiau casglu gwaed a ddefnyddir i gymryd rhai samplau gwaed (profion gwaed) yn effeithio ar wasanaethau’r GIG.

Mae pedair gwlad y DU yn rheoli’r mater hwn, gan gynnwys gwaith i ddod o hyd i ddewisiadau amgen addas i’r cynhyrchion yr effeithir arnynt.

Mae gan y GIG brofiad helaeth o ddelio a materion cyflenwad meddygol, ac yng Nghymru mae’r ymateb yn cael ei arwain gan GIG Cymru, gan weithio gyda chenhedloedd eraill a’r llywodraeth.

Mae meddygon a chlinigwyr ledled y DU, sy’n gweithio mewn meddygfeydd, ysbytai, gwasanaethau iechyd cymunedol ac iechyd meddwl ac ymddiriedolaethau ambiwlans, wedi cael eu cynghori i ohirio profion gwaed nad ydynt yn hanfodol, ac adolygu cyfnodau o brofion gwaed, ar yr adeg hon. Mae hyn er mwyn cadw cyflenwadau i bobl sydd angen profion gwaed ar frys.

Mae diogelwch claf yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a bydd eich prawf yn cael ei oedi dim ond os yw clinigwr wedi asesu ei bod yn ddiogel yn glinigol gwneud hynny. 

Mae clinigwyr yn dilyn arweiniad cenedlaethol, gyda chefnogaeth Grŵp Cyfeirio Clinigol y DU.

Dylai pobl sydd angen gofal brys neu heb eu cynllunio parhau i’w geisio yn y ffyrdd arferol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Dirprwy Brif Weithredwr Dr Philip Kloer: “Mae clinigwyr a rheolwyr yn ardal Hywel Dda yn cydweithio i fod mor effeithlon ag y gallwn i sicrhau nad ydym yn gwastraffu poteli gwaed ac nad ydym yn dyblygu profion mae hynny eisoes wedi’i gwneud. Rydym yn dilyn arweiniad arbenigol ac yn ystyried y profion a archebir yn ofalus, gan flaenoriaethu’r rhai sy’n cael effaith ar unwaith ar ddiagnosis neu driniaeth.

“Mae’n ddrwg gennym am unrhyw bryder neu aflonyddwch y gallai hyn ei achosi, ond rydym am bwysleisio bod y mesurau hyn yn cael eu cymryd er budd diogelwch claf. Bydd eich clinigwr yn adolygu’ch achos a byddwch yn derbyn prawf os bernir ei fod yn hanfodol yn glinigol.

“Rydyn ni’n ddiolch i’n cleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr am eu hamynedd ar yr adeg hon.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle