Monitro ansawdd aer yn “hwyr” ond codwyd cwestiynau ynghylch peiriannau diheintio osôn “dadleuol

0
317
Plaid Cymru Assembly Member Sian Gwenllian AM

Wrth ymateb i’r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu teclynnau monitro CO2 a systemau diheintio osôn i bob ysgol, coleg a phrifysgol, dywedodd llefarydd plaid Cymru ar addysg, Siân Gwenllïan AS,

“Mae cyngor gwyddonol wedi tynnu sylw ers tro at bwysigrwydd ansawdd aer wrth gyfyngu ar drosglwyddo coronafeirws – rydym wedi bod yn galw am fwy o arweiniad ac adnoddau i golegau ysgolion a phrifysgolion ar bwnc awyru ers y llynedd. 

“Mae’r ddarpariaeth o declynnau monitro CO2 i sefydliadau addysgol, tra’n hwyr, i’w groesawu, ac mae’n cyd-fynd â gwledydd eraill. Mae’n bwysig bod y mesurau a ddefnyddiwn yn cyd-fynd â’r canllawiau gwyddonol diweddaraf ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i sefydliadau addysgol ar ddefnyddio teclynnau fel systemau diheintyddion osôn. 

“Mae cyflwyno peiriannau diheintio oson yn fwy dadleuol a dweud y lleiaf a rhaid i Lywodraeth Cymru ein sicrhau eu bod yn hollol ffyddiog eu bod yn ddiogel i’w defnyddio cyn eu cyflwyno ar draws Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle