Elusennau Iechyd Hywel Dda ar fenyw o Aberystwyth sy’n rhedeg Marathon Llundain i godi ymwybyddiaeth o roi organau

0
256
Kirsty Griffiths London Marathon

Pob lwc i Kirsty Griffiths o Aberystwyth, sy’n rhedeg Marathon Rhithiwr Llundain i godi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda ac i hyrwyddo’r system rhoi organau.

Dywedodd Kirsty ei bod am gael her i’w helpu i golli pwysau a’i bod am gefnogi’r Tîm Rhoi Organau Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr un pryd.

“Byddwn wrth fy modd pe bai’r arian yn mynd tuag at gefnogi teuluoedd rhoddwyr organau a’r gwasanaeth rhoi organau,” meddai. “Roedd fy chwaer a fy nhad yn rhoddwyr organau a byddwn wrth fy modd yn codi’r arian hwn er cof amdanynt.”

“Bu farw fy nhad yn Ysbyty Glangwili a gyda help, arweiniad a chefnogaeth gan y tîm Rhoi Organau Arbenigol, gwnaethom y penderfyniad i roi ei organau.

“O’r cyfarfod cyntaf un hyd heddiw, chwe blynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i gael ein cefnogi gan y tîm, ac yn cael diweddariadau o ran unrhyw roddion sy’n parhau i gael eu gwneud.

“Elwodd nifer o bobl ledled y DU o roddion dad. Rhoddwyd ei galon i Fanc Calonnau Bryste, lle mae meinwe’n cael ei storio a’i roi i fabis a phlant sydd wedi’u geni â nam ar y galon y mae angen ei atgyweirio. Mae’r rhodd hon yn parhau i achub bywydau, wrth i ferch fach bum niwrnod oed gael falfiau ei galon mewn llawdriniaeth a achubodd ei bywyd.

“Rwy’n gobeithio meithrin ymwybyddiaeth o’r system rhoi organau a’r gwaith anhygoel y mae’r Timau Rhoi Organau Arbenigol yn ei wneud yma ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Ni allaf ddiolch digon i’r Timau Rhoi Organau am yr ymroddiad dyddiol i gefnogi ein hanwyliaid, i gefnogi teuluoedd sydd mewn profedigaeth ac sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi, hyd at gefnogi’r unigolion sy’n cael yr organau ac yn dechrau ar eu taith newydd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

Mae Marathon Llundain Virgin Money yn digwydd ar 3 Hydref ac mae gan yr ymgeiswyr 23 awr, 59 munud a 59 eiliad i gwblhau’r 26.2 milltir mewn lleoliad o’u dewis.

Gallwch gyfrannu at her Kirsty trwy www.justgiving.com/Kirsty-Griffiths14


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle