Elusennau Iechyd Hywel Dda ar Ysbyty Withybush

0
301
Yn y llun gydag un o'r cadeiriau newydd y mae'r Nyrs Staff, Gemma Morgan a'r Cynorthwywyr Gofal Iechyd, Amanda Carroll a Becci Rees.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu pum cadair newydd ar gyfer yr ystafell aros yn ystafell gofal gynaecoleg Ysbyty Llwynhelyg, a hynny diolch i roddion lleol.

Mae’r cadeiriau newydd, sydd â chefnau uchel, yn llawer mwy cyfforddus i gleifion, y mae llawer ohonynt yn oedrannus, wrth iddynt aros am apwyntiad neu driniaeth yn y clinig.

Dywedodd Louise Hill, Rheolwr yr Ystafell Gofal Gynaecoleg, fod y cadeiriau wedi gwneud yr ystafell aros yn llawer mwy cyfforddus, a’u bod yn fwy croesawgar i gleifion ac yn haws eu glanhau.

Mae’r cleifion a’r staff yn eu gwerthfawrogi’n fawr,” meddai. “Maent wedi gwneud yr ystafell aros yn lle cysurus, mae’r cadeiriau’n gyfforddus ac mae’n hawdd codi ohonynt, ac rydym yn ddiolchgar eu bod wedi cael eu darparu.”

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Mae rhoddion gan ein cymunedau lleol yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda.

“Mae pob ceiniog a roddir i elusen eich GIG yn mynd yn uniongyrchol i helpu cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Os hoffech helpu, gallwch gael gwybod rhagor yn www.hywelddahealthcharities.org.uk.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle