Diolch am ymgysylltu â ni

0
293
  • Hoffai Bwrdd Iechyd Hywel Dda  (BIP) ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymarfer ymgysylltu ddiweddar, a bydd y canfyddiadau ohono’n helpu i lunio gwasanaethau yn y dyfodol.

    Yn ystod yr ymarfer chwe wythnos (dydd Llun 10 Mai – dydd Llun 21 Mehefin), gofynnodd y bwrdd iechyd i’r cyhoedd gwblhau arolwg a rhoi eu hadborth ar sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a mynediad iddo. Gofynnwyd I ni ddarparu enwebiadau ar gyfer safleoedd ysbyty newydd yn y parth rhwng a chan gynnwys Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. A gwnaethom hefyd ofyn am y pethau pwysicaf yr oedd pobl yn meddwl y dylem eu hystyried wrth benderfynu pa safle fydd orau i’n cymunedau.

    Mae adroddiad llawn ar y canfyddiadau yn cael ei lunio ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law. Fodd bynnag, datgelodd yr ymarfer rai camsyniadau ynghylch yr ysbyty newydd a dyfodol ysbytai cyfredol. Mae’r bwrdd iechyd yn dymuno sicrhau:

  • Cytunwyd ar y safle arfaethedig rhwng Sanclêr ac Arberth ar gyfer ys ysbyty newydd yn dilyn ein hymgynghoriad yn 2018, a arweiniodd at ddatblygu ein strategaeth hirdymor Canolbarth a gorllewin iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda.
  • Nid yw BIP Hywel Dda wedi prynu nac wedi nodi safle a ffefrir yn y parth y cytunwyd arno.
  • Mae rhestr hir o safleoedd posib yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd ar gyfer addasrwydd yn erbyn pedwar maen prawf (yn ymwneud a lleoliad y safle, maint, y rhagolygon o gael caniatâd cynllunio a seilwaith trafnidiaeth briodol), a fydd yn arwain at lunio rhestr fer o safleoedd.
  • Y bwrdd iechyd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y safle a dewiswyd, mewn cytundeb a Llywodraeth Cymru, y byddwn yn ceisio’r arian ohono.
  • Mae ysbyty newydd yn hanfodol ar gyfer gofal brys wedi’i gynllunio yn ne ardal Hywel Dda, a bydd yn darparu gofal trawma ac yn brif adran achosion brys de ein hardal.
  • Nid oes gan BIP Hywel Dda unrhyw gynlluniau na bwriad i gau naill ai ysbytai Glangwili neu Llwynhelyg, a bydd yn ymgysylltu ymhellach ar sut y gallai’r ysbytai hyn weithio ochr yn ochr â’r ysbyty newydd arfaethedig.
  • Bydd Ysbyty Bronglais yn adeiladu ei enw da fel darparwr gwledig rhagorol o ofal aciwt ac wedi’i gynllunio, a bydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal brys a gofal wedi’i gynllunio.
  • Bydd Ysbyty’r Tywysog Philip yn darparu cymorth diagnostig i fan-anafiadau dan arweiniad meddygon teulu yn ogystal â gofal meddygol oedolion aciwt, gan gynnwys gwelyau cleifion mewnol dros nos dan arweiniad ymgynghorydd.
  • Mae BIP Hywel Dda wedi ymrwymo i raglen o ddatgarboneiddio, felly bydd pob penderfyniad a wnawn cyn ac yn ystod datblygiad ysbyty newydd yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.
  • Bydd datblygiadau allweddol yn y strategaeth drafnidiaeth yn lleol yn dylanwadu ar gynlluniau trafnidiaeth i gefnogi’r ysbyty newydd.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr BIP Hywel Dda: “Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn a’u profiadau o sut mae COVID-19 wedi effeithio arnyn nhw a’u teuluoedd. Mae eich adborth wedi bod yn graff ac yn addysgiadol a bydd yn chwarae rhan fawr wrth helpu i lunio gwasanaethau yn y dyfodol. Bydd hyn yn ei dro yn caniatáu inni gyflawni ein hymrwymiad tymor hir ar gyfer canol a gorllewin Cymru iachach.

“Er ei bod yn anffodus bod chwedlau a sibrydion am yr ysbyty newydd wedi bod yn cylchredeg, gallwn sicrhau’r cyhoedd bod didwylledd a thryloywder yn bwysig iawn i ni.

“Roedd yr ymarfer hwn yn rhan o’n proses barhaus i ddatblygu achos rhaglen busnes i gefnogi ein strategaeth ar gyfer iechyd a gofal yn y gymuned ac mewn ysbytai. Fel rhan o’r broses i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn cyflwyno achos busnes y rhaglen, ac yna achosion busnes amlinellol unigol, yna’r achosion busnes terfynol erbyn 2024. Felly bydd y bwrdd iechyd yn ymgysylltu a’r cyhoedd yn rheolaidd rhwng nawr a chyflwyniad yr achosion busnes terfynol i sicrhau bod eich barn yn cael ei hystyried yn llawn.”

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn cadw llygad ar Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel dda, corff gwarchod annibynnol gwasanaethau’r GIG yn Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, fel y gall helpu i gynrychioli buddiannau ein cymunedau lleol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle