Dywed gweithiwr iechyd meddwl bod COVID-19 wedi gwneud pwnc iechyd meddwl yn ‘fwy gweladwy’

0
412
Katherine Lewis

Mae gweithiwr iechyd meddwl Hywel dda yn lleisio sut mae’r pandemig wedi effeithio ar bwnc iechyd meddwl a’i gwneud yn fyw derbyniol siarad amdano.

Dywed Katherine Lewis, Rheolwr Tîm y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion Hŷn nad yw’n syndod bod achosion iechyd meddwl wedi cynyddu ers COVID-19.

“Roedd yna lawer o ofn yn ystod y don COVID cyntaf, gan fod llawer o sylw negyddol yn y tabloidau.

“Roedd lawer o gleifion yn cael trafferth. Roedd yna lawer o unigedd, ac roedd y gefnogaeth anffurfiol y byddent yn ei chael gan ffrindiau, cymdogion a theulu wedi dod i ben.”

Mae Katherine a’i thîm yn ardal Sir Benfro, ond yn gofalu am gleifion yn eu cartrefi eu hunain yn bennaf.

“Byddwn yn mynd allan i weld pobl a phroblemau iechyd meddwl sydd hefyd a phroblemau iechyd difrifol neu barhaus sy’n effeithio ar eu swyddogaeth.

“Mae yna risgiau ynghlwm. Rydym yn darparu asesiad ac ymyriadau i leihau’r risg sy’n cynnwys crwydro, ymddygiad ymosodol, trallod a hwyliau isel, a gobeithio gwella adferiad.”

Cyn y pandemig ni fyddai Katherine a’i thîm yn gwisgo gwisg unffurf wrth weithio, ond roedd gwisgoedd unffurf yn fwy diogel ac ymarferol ar ôl i COVID-19 cyrraedd.

“Roedd cyfathrebu’n eithaf anodd i bobl â dementia, heb ddeall y cyfarpar diogelu personol a pham roeddem yn gwisgo masgiau yn eu cartref.

“Roedd yn rhaid i ni ddal ati i dawelu eu meddwl ac egluro. Ond i bobl â dementia, yn enwedig gall achosi llawer o drallod ac anawsterau ychwanegol.”

“Byddem yn darparu llythyrau mewn asesiadau er mwyn i gleifion allu mynd allan yn y car, er mwyn lleihau rhywfaint o drallod yr oeddent yn ei deimlo.”

Stopiodd pecynnau gofal yn ystod y pandemig i leihau cyswllt, gan olygu nad oedd cleifion yn derbyn eu hymweliadau rheolaidd gan ofalwyr.

“Pan mae gennych chi rywun a dementia, mae’r cysylltiadau rheolaidd hynny ag anwyliaid a gofalwyr yn bwysig iawn.

“Gall diffyg awyr iach, bod allan yn natur, effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl pobl os nad oes gennych fynediad i’r adnoddau hynny.

“Roeddem yn ffodus bod yna ymdeimlad o gymuned a llawer o gefnogaeth yn digwydd mewn cryn dipyn o ardaloedd yn Sir Benfro.”

Roedd gwr Katherine yn gweithio ym Mumbai ac wedi ei roi mewn cwarantin ar ei ben ei hun am 7 mis yn ystod y pandemig, cyn iddo ymddeol a dychwelyd adref yn 2020.

“Fe wnes i boeni am ei iechyd oherwydd nad oedd ganddo neb yno gydag ef. Byddwn wedi poeni pe bai wedi bod yn eithaf sâl yno.

“Yn ffodus, ni ddaliodd COVID-19 tra roedd yno sy’n beth da. Yna llwyddodd i ddod adref ym mis Hydref.”

Mae Katherine a’i gŵr yn byw yn Sir Benfro, ond roeddent wedi byw dramor o’r blaen, mewn lleoedd fel Alaska a Texas.

“Byddwn wedi ei chael hi’n anodd iawn bod yn byw dramor yn ystod COVID-19 a pheidio â bod yma i gefnogi fy rhieni a fy nghyfreithiau.

“Roeddwn yn falch o fod adref pan ddigwyddodd. Roeddwn i’n amddiffynnol iawn a doeddwn i ddim eisiau i unrhyw un ohonyn nhw adael y tŷ.

“Byddwn I’n gwneud pethau iddyn nhw. Beth bynnag oedd angen ei wneud pe bai’n lleihau’r risg iddyn nhw oherwydd maen nhw i gyd dros 70 oed.”

Mae Katherine hefyd yn byw gyda’i merch a gafodd ei dysgu gartref ac yn gweithio tuag at ei chymwysterau TGAU yn ystod y pandemig.

“Roedd hi’n llawer o gryfder i mi oherwydd wnaeth hi erioed gwyno unwaith ac roedd hi bob amser yn bleserus ac yn barod i helpu pan gyrhaeddais adref.”

Gwrandewch ar bodlediad llawn Katherine yma (hefyd ar gael ar Spotify).


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle