Elusennau Iechyd Hywel Dda ar soffa newydd a brynwyd ar gyfer yr adran gardi-anadlol yn Ysbyty Bronglais

0
269
Couch for cardiorespiratory Bronglais - Ceris Jones

Diolch i roddion lleol i Elusennau Iechyd Hywel Dda, prynwyd soffa a stôl newydd i helpu gydag ecocardiogramau sy’n cael eu cynnal ar gyfer cleifion y galon yn Ysbyty Bronglais.

Mae’r Adran Cardio-Anadlol wedi symud i mewn i adeilad mwy ac erbyn hyn mae dwy ystafell ar gyfer ecocardiograffeg, a fydd yn galluogi gweld cleifion mewnol a chleifion allanol ar yr un pryd.

Mae cadeiriau ecocardiograffeg yn galluogi i’r claf fod mor gyfforddus a phosib, gan sicrhau archwiliadau o ansawdd uchel.

Maent hefyd wedi’u cynllunio’n arbennig i fod yn ergonomig i’r sonograffydd sy’n cynnal y profion – gan leihau straen ac anaf cyhyrysgerbydol.

Dywedodd Ceris Jones, Ffisiolegydd Cardiaidd (yn y llun): “Mae’r soffa wedi gwella cysur cleifion yn ddramatig, ynghyd â llesiant staff, sy’n helpu i gynnal a gwella amseroedd ein rhestrau aros.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan y cyhoedd gyda codi arian a rhoddion i Gardioleg ym Mronglais.

“Mae’r cadeiriau hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr er mwyn ein helpu i wneud ychydig o newidiadau sy’n helpu i wella’r gwasanaeth yn sylweddol.”

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Os hoffech chi helpu eich elusen GIG i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle