Angen eglurder ar strategaeth aer glân “shambolig” i ysgolion – Rhun ap Iorwerth AS

0
310
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi gofyn am fwy o eglurder ynglŷâ‘r broses o wneud penderfyniadau yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu 1,800 o beiriannau diheintio osôn ar gyfer pob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.

Ddydd Llun 30 Awst cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod “mwy na 1,800 o beiriannau diheintio oson a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid yn cael ei darparu ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru”. 

Ddoe, adroddwyd mai “treial” oedd darparu’r peiriannau diheintio osôn hynod ddadleuol – er nad oes datganiad i’r perwyl hyn wedi ymddangos ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

Nid yw negeseuon cymysg gan Lywodraeth Cymru ynghylch gweithdrefnau diogelwch ysgolion yn gwneud fawr ddim i dawelu meddwl y cyhoedd bod gan y llywodraeth afael ar ei mesurau diogelwch.

“Ddyddiau cyn i ysgolion ddod yn ôl, clywsom y byddai’r llywodraeth yn cyflwyno bron i 2,000 o beiriannau diheintio osôn newydd sbon a dadleuol iawn ym mhob lleoliad addysgol yng Nghymru. Nawr rydym yn clywed nad yw hyn yn digwydd. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch y gweithdrefnau caffael a arweiniodd at y sefyllfa gywilyddus hon.

“Mae gan y Llywodraeth gyngor clir eisoes gan ei grŵp cynghori technegol,  ond ble mae’r cyfarwyddiadau i ysgolion, colegau a phrifysgolion ar ddefnyddio  monitorau CO2, awyru adeiladau’n briodol  a hyd yn oed gwneud pethau mor sylfaenol â dweud wrth y plant i wisgo dillad cynhesach i ganiatáu agor ffenestri? 

“Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i benderfynu ar ei phrotocolau diogelwch, bydd ein plant eisoes yn ôl i’r ysgol, heb fawr o newid yn y canllawiau i’w cadw’n ddiogel.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle