Bwyd a Hwyl i blant yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
258
Photo caption: Children having fun at the Food and Fun scheme organised by Neath Port Talbot Council’s Youth Service.

Mae dros 300 o blant ysgol ar draws Castell-nedd Port Talbot wedi cymryd rhan mewn Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol ‘Bwyd a Hwyl’ yn ystod gwyliau’r haf er mwyn eu hannog i gadw’n iach ac actif.

Cymerodd disgyblion o Ysgol Gynradd Melin, Ysgol Gynradd Awel y Môr, Ysgol Cymer Afan, sy’n rhan o Ffederasiwn Ysgolion Cwm Afan Uchaf, Ysgol Cwm Brombil ac Ysgol Bae Baglan ran yn y cynllun a drefnwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Photo caption: Children having fun at the Food and Fun scheme organised by Neath Port Talbot Council’s Youth Service.

Cafodd pawb a oedd yn bresennol gyfle i fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau corfforol a difyr ynghyd â dysgu am bwysigrwydd bwyta’n iach. Hefyd, cafodd pawb frecwast a chinio iach bob dydd.

Cynhaliwyd y cynllun dros gyfnod o dair wythnos, darparodd pob ysgol amrywiaeth o weithgareddau a chysylltodd y Gwasanaeth Ieuenctid hefyd â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Andrew Scott LTD, Celf a Chrefft, Gwaith Chwarae a Chriced Cymru i gyflwyno sesiynau gwahanol i’r plant.

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Rwy’n falch ein bod unwaith eto wedi gallu cyflawni’r cynllun Bwyd a Hwyl i blant yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“Mae hwn yn gyfnod heriol i bawb felly mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i gynnig cyfleoedd i blant wneud ffrindiau, ennill sgiliau newydd ac yn bwysicaf oll, cael hwyl.”

Cyflawnir y cynllun Bwyd a Hwyl mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle