Darparu gofal i’n cleifion

0
269

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gweithredu i sicrhau bod gofal critigol ar gyfer gleifion mwyaf anghenus yn cael ei ddarparu mewn ysbytai, lleoliadau cymunedol a gofal sylfaenol, er gwaethaf pwysau eang ar y system.

Mae cyrff y GIG ar draws Cymru a’r DU yn wynebu llawer o heriau gan gynnwys effaith absenoldeb staff a hunan ynysu, anawsterau wrth ryddhau cleifion sy’n ffit yn feddygol o’r ysbyty, galw brys uchel, ac o fewn ardal Hywel Dda, cynnydd yn y cleifion sydd â Covid sy’n cael ei derbyn i’n hysbytai.

Mewn ymateb i’r sefyllfa hon, mae Hywel Dda wedi ail-gyflwyno rhai mesurau dros dro, gyda’r nod o barhau i ddarparu cymaint o lawdriniaethau a gynlluniwyd â phosib tra hefyd yn sicrhau fod gennym y gallu angenrheidiol i ofalu’n ddiogel am ein cleifion mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Mae hyn yng nghanol yr hyn sy’n parhau i fod yn bandemig heriol a pharhaus.

Mae mesurau yn cynnwys cymryd y penderfyniad anodd i atal llawdriniaethau orthopedig dewisol yn Ysbyty Tywysog Philip ac Ysbyty Llwynhelyg, gan ddarparu mwy o gapasati gwelyau mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Covid-19 a lleihau pwysau ar ein system gofal nas trefnwyd. Fodd bynnag, bydd llawdriniaethau theatr sylweddol, triniaethau ac ymholiadau yn parhau ar draws ein safleoedd.

Gall y bwrdd iechyd hefyd gadarnhau bod un ward wedi ei gau dros dro o Ddydd Mercher (01 Medi 2021), yn Ysbyty Glangwili er mwyn helpu i reoli achosion o Covid-19, gyda rhagofalon ychwanegol hefyd yn cael eu cymryd ar ddau ward. Mae ymweliadau i bob ward yn parhau i fod yn gyfyngedig a thrwy apwyntiad yn unig. Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â rheolwr y ward.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda: “Ar ran y Bwrdd, hoffwn yn gyntaf sicrhau ein cymunedau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ymwneud â blaenoriaethu diogelwch cleifion ar yr adeg hon.”

“Rwyf eisiau bod yn glir bod ein gwasanaethau gofal brys yn parhau i fod ar agor i bobl sydd angen eu defnyddio, a bydd y mesurau rydym yn gosod yn eu lle yn helpu i sicrhau ein bod ni’n gallu gweld y cleifion hyn.  Mae ein staff medrus a thosturiol yn defnyddio eu sgiliau i flaenoriaethu a gofalu am gleifion yn y ffordd orau posibl, ac rydym mor ddiolchgar iddynt. Fodd bynnag, rydym dal yng nghanol y pandemig hwn, sy’n parhau i amharu ar ein bywydau o ddydd i ddydd, ac yn anffodus un o oblygiadau hyn yw bod rhai i ni ddod â mesurau dros dro yn ôl, gan gynnwys gohirio llawdriniaethau yn y tymor byr, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu gofalu’n ddiogel am gleifion.

“Mae’r cynnydd mewn achosion yn Hywel Dda yn dangos er nad yw derbyniadau i’r ysbyty mor uchel ag yn y gorffennol, fod COVID-19 yn parhau i fod yn risg difrifol i’n hiechyd a’n gwasanaethau iechyd.

“Rwy’n apelio at bawb i barhau i wneud eu rhan drwy aros gyda’r ymddygiadau ‘cadwch yn ddiogel’ sydd wedi’u dangos i leihau lledaenu’r firws. Heb eich help, byddwn yn gweld mwy o achosion sy’n rhoi unigolion mewn perygl a gall amharu ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yma yng ngorllewin Cymru.”

Yn ystod y pandemig, mae’r bwrdd iechyd wedi cyflwyno nifer o ffyrdd newydd o weithio i helpu i weld a thrin cleifion ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd , gan gynnwys clinigau teleiechyd a telefeddygaeth sy’n cael eu rhedeg gan ein Meddygon a’n Gwasanaeth Cymorth Rhestrau Aros sydd wedi’i gynllunio i helpu i reoli cleifion a’u gofal wrth iddynt aros am lawdriniaeth. Mae gwaith sylweddol mewn theatrau a sefydliadau gofal eraill yn parhau ar draws pob un o’n safleoedd ac rydym yn hynod o falch o’n staff am eu hymdrechion parhaus i ddarparu hyn.

Sut allwch chi helpu:

  • Galwch 999 am ofal brys ac argyfwng yn unig, mae ein hysbytai yn parhau i weld cleifion sydd ag argyfyngau meddygol. Mae mesurau yn ein hysbytai sydd wedi’u cynllunio i gadw cleifion mor ddiogel â phosibl ac anogir pobl i chwilio am sylw meddygol brys os oes ei angen arnynt. Cofiwch – mae dal angen i chi wisgo mwgwd a chadw pellter cymdeithasol ym mhob sefydliad gofal iechyd.
  • Os oes  gennych angen difrys, gofynnwch am ddewisiadau eraill yn lle’r Adran a Damweiniau, megis ymweld â’r gwiriwr symptomau 111 (GIG 111 Cymru (wales.nhs.uk) ymweld â’ch fferyllfa gymunedol neu ffonio eich meddygfa leol.
  • Dangoswch ysbryd cymunedol – os oes gennych berthynas sy’n aros i gael ei ryddhau o’r ysbyty, cefnogwch nhw ar y daith adref a helpwch nhw i setlo ar ôl iddynt gyrraedd. Cadwch lygaid ar ffrindiau, teulu a chymdogion.
  • Gwarchodwch y GIG – a Chadwch Gymru’n Ddiogel. Drwy ddilyn canllawiau’r llywodraeth, gallwch helpu: ymwelwch â Coronafeirws (COVID-19) | Pwnc | LLYW.CYMRU Gwyliwch ein fideo ar ymddygiadau ‘cadw’n ddiogel’ sy’n cynnwys staff lleol o wasanaethau cyhoeddus. https://www.youtube.com/watch?v=8W4bBjpPYtw
  • Dylai unrhyw un sydd â symptomau COVID-19, gan gynnwys symptomau sy’n debyg i annwyd a ffliw, hunan-ynysu ac archebu prawf drwy: https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119 cyn gynted â phosibl. Drwy wneud hyn, gallwch helpu i leihau’r risg o ledaenu’r firws ymhellach ar draws ein cymunedau.
  • Sicrhewch eich  bod yn cael y brechlyn – dyma’r ffordd orau o’ch diogelu chi ac eraill rhag COVID-19 (Rhaglen frechu COVID-19 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle