Y syniad yn “cosbi” y tlotaf ac yn anwybyddu yr angen i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus meddai Heledd Fychan AS
Wrth ymateb i’r newyddion bod y syniad o dollau i rai gyrwyr ar rannau o draffordd yr M4 a’r A470 wedi’i godi gan lywodraeth Cymru mewn ymgais i fynd i’r afael â llygredd aer, meddai Heledd Fychan AS Plaid Cymru dros Canol De Cymru,Â
“Yn hytrach na chynnig syniadau polisi arloesol fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r broblem sydd dirfawr angen ei thaclo, mae’r Llywodraeth yn hytrach wedi troi at benawdau newyddion.
“Mae’r argyfwng hinsawdd yn real. Mae llygredd aer yn real. Mae angen datrysiadau radical. Nid yw gosod tollau ar un darn o lon yn ddatrysiad radical. Y cyfan y bydd yn ei wneud yw gyrru pobl i osgoi’r taliadau drwy fynd trwy gymunedau cyfagos a thrwy hynny wthio llygredd i’r cymjunedau hynny gan waethygu llygredd aer a thagfeydd.
“Mae hefyd yn cosbi’r tlotaf sy’n ddibynnol ar geir i gyrraedd shifft gwaith yn hwyr yn y nos neu’n gynnar yn y bore gan nad yw’r trenau a’r bysiau yn rhedeg yr adeg honno o’r dydd.Â
“Mae angen buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r rhai sy’n ddibynnol ar wasanaethau bws lleol ar hyn o bryd methu â chyrraedd apwyntiadau ysbyty, methu casglu eu plant o’r ysgol neu yn methu cyrraedd eu shifft gwaith mewn pryd. A dyna lle mae angen i’r buddsoddiad ddigwydd gan wneud trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn hygyrch.
Â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle