Cynnydd mewn gwasanaethau trên o fis Medi: Cwsmeriaid TrC yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw o hyd

0
339

Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith gan y bydd mwy o wasanaethau trên yn rhedeg o fis Medi 2021.
O ddydd Llun 13 Medi, bydd amserlenni rheilffyrdd newydd ar waith ar draws rhwydwaith TrC Cymru a’r Gororau. Bydd y newidiadau hyn yn gweld cynnydd cyffredinol o 8.5% mewn gwasanaethau. Hefyd, bydd dau drên pellter hir ‘Mark IV’ o ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno i wasanaethau teithwyr, gan gynnwys y gwasanaethau arlwyo a lluniaeth hefyd.

Er na fydd y newidiadau yn effeithio ar amseroedd llawer o wasanaethau, dylai cwsmeriaid barhau i sicrhau eu bod yn gwirio eu hamseroedd gadael, cyrraedd a chysylltu yn drylwyr.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:  “Er mwyn cyflwyno mwy o wasanaethau ar ein rhwydwaith, bu’n rhaid i ni addasu rhywfaint ar ein hamserlen.  Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio.

“Rydyn ni’n disgwyl y bydd mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau, felly bydd ein teclyn Gwirio Capasiti yn ddefnyddiol iawn i helpu cwsmeriaid gynllunio i deithio pan fydd gwasanaethau’n dawelach.

“Ers llacio cyfyngiadau, rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu croesawu llawer o gwsmeriaid yn ôl. Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn well i’r amgylchedd, ac mae llawer o bobl wedi cael eu hynysu ers amser maith. Rydyn ni’n hapus dros ben bod pobl yn dychwelyd i ddefnyddio opsiynau teithio mwy cynaliadwy.”

Atgoffir cwsmeriaid bod gwisgo gorchudd wyneb tra ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, oni bai eu bod wedi’u heithrio.  Rhaid gwisgo gorchudd wyneb hefyd mewn gorsafoedd caeëdig.

Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn defnyddio un o wasanaethau TrC. Gellir gwirio manylion y daith a phrynu tocynnau yma.

Notes to editors

Newidiadau i’r Amserlen:

Gwasanaethau’r Cymoedd:  Cynyddu’r gwasanaethau i Dreherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr i ddau yr awr a gwasanaethau ychwanegol i Ystrad Mynach a Bargoed.

Ynys y Barri / Penarth: Cynyddu’r gwasanaeth i Ynys y Barri i dri yr awr a chynyddu’r gwasanaeth i Benarth i bedwar yr awr.

Llinell y Ddinas / Llinell Coryton: Cynyddu’r gwasanaeth i ddau yr awr.  Oherwydd gwaith adfer hanfodol i bont reilffordd yng nghanol y ddinas, ni fydd unrhyw wasanaethau uniongyrchol rhwng Coryton a Radur  (* ac eithrio  gwasanaeth uniongyrchol 07:45 Coryton i Radur a 14:59 Radur i Coryton ddydd Llun – dydd Gwener).  Bydd gwasanaethau’n rhedeg rhwng Coryton a Bae Caerdydd a rhwng Radur a Chanol Caerdydd.  Gellir defnyddio gwasanaethau eraill i gysylltu rhwng Caerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog.

Gwennol Bae Caerdydd:  Bydd y gwasanaeth 08:07 o Caerdydd Heol y Frenhines i Fae Caerdydd a’r gwasanaeth 08:14 o Fae Caerdydd i Caerdydd Heol y Frenhines yn rhedeg fel gwasanaeth bws yn lle trên – ddydd Llun – dydd Gwener.

Caergybi – Caerdydd:  Bydd gwasanaethau uniongyrchol rhwng Caergybi a Chaerdydd yn cael eu hailgyflwyno, gan gynyddu gwasanaethau ar hyd y Gororau rhwng Caerdydd a’r Amwythig.  Bydd gwasanaeth 16:50 Caergybi i Gaerdydd hefyd yn galw ym Mae Colwyn, y Rhyl, Abergele, Prestatyn a’r Fflint.

Stopiau Gwasanaeth Ychwanegol: Bydd mwy o wasanaethau yn stopio yn Prees ac Yorton a bydd gwasanaethau dydd Sul yn stopio mewn gorsafoedd lleol rhwng Amwythig a Birmingham.

Wrecsam i Bidston: Bydd gwasanaeth 12:34 Wrecsam Cyffredinol i Bidston, 13:34 Bidston i Wrecsam Cyffredinol yn rhedeg fel gwasanaeth bws yn lle trên ddydd Mawrth – dydd Iau, oherwydd hyfforddiant hanfodol i yrwyr.

Lein y Cambrian: Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Pwllheli a Machynlleth, oherwydd gwaith adfer hanfodol Network Rail i Draphont Abermaw. Bydd lleoliadau arosfannau bysiau yn lle trên yn newid mewn rhai gorsafoedd er mwyn gwella amseroedd teithio a bydd amserlenni bysiau yn amrywio trwy gydol y cyfnod hwn, oherwydd gwaith ffordd yn yr ardal.

Bydd yr amserlenni newydd yn ddilys tan ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr 2021.

 Mae’r teclyn Gwirio Capasiti    yn defnyddio data defnyddio a gipiwyd yn ddienw ar drenau, sy’n gofyn am wythnos o ddata cyn y gall ragweld defnydd ar wasanaethau newydd neu ddiwygiedig.  Felly, am wythnos gyntaf yr amserlenni newydd, gall rhai gwasanaethau ymddangos yn ‘llwyd’ gan na fydd unrhyw ddata ar gael yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle