Yn dilyn damwain difrifol arall yng Nghymru o ganlyniad i neidio o glogwyn mae penderfyniad sefydliadau diogelwch dŵr wedi ei gryfhau o ran ceisio lleihau’r digwyddiadau.
Mae pobl wedi neidio o glogwyni ers cenedlaethau, ond erbyn hyn mae niferoedd cynyddol yn rhoi cynnig arni o ganlyniad, yn bennaf, i gyhoeddusrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol; gall camgymeriad wrth neidio arwain at farwolaeth neu anafiadau sy’n effeithio’n andwyol ar fywydau unigolion.
Yn ystod y gwyliau ysgol, mae Diogelwch Dŵr Cymru, sef grŵp sy’n cynnwys dros 30 o sefydliadau yn canolbwyntio ar leihau boddi a digwyddiadau difrifol, yn annog neidwyr i gadw’n ddiogel.
Yn y digwyddiad diweddaraf yn y Lagŵn Glas, ger Abereiddi yn Sir Benfro, roedd rhaid hedfan person yn eu hugeiniau cynnar i’r ysbyty gan fod anafiadau i’w gefn. Mae hyn yn dilyn digwyddiad ym mis Ebrill lle cafodd dyn anafiadau a effeithiodd yn andwyol ar ei fywyd ar ôl iddo neidio o glogwyni ger Bae Langlan, Abertawe. Cafwyd digwyddiad arall lle cafodd dyn anymwybodol ei achub o’r dŵr ar ôl iddo neidio o glogwyni ar Ynys Santes Catherine, Dinbych-y-pysgod. Yn ffodus, daeth yn ymwybodol eto ac aethpwyd ag ef i’r ysbyty.
Cafodd Danni Harding, o Gaerdydd, anafiadau a effeithiodd yn andwyol ar ei bywyd pan darodd yn erbyn creigiau wrth neidio o raeadr yn 2018. Fe dorrodd Danni ei chefn ac mae bellach ymgodymu â nifer o broblemau iechyd gwanychol. Mae Danni’n 30 oed ac roedd hi’n yn rhedeg cwmni diogelwch llwyddiannus cyn iddi gael y ddamwain.
Meddai: ‘Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y tywydd poeth wedi achosi i lefel y dŵr fod yn is na’r arfer. Ro’n i’n cael yr amser bendigedig – roeddwn i wedi neidio naw gwaith yn barod, ac wedyn cymerais un cam anghywir. Erbyn hyn mae’n rhaid i fi fyw gyda’r ffaith mod i’n cael ffitiau, bod atal dweud arna i a bod rhaid mynychu apwyntiadau ysbyty byth a beunydd.
“’Roeddwn i’n arfer bod yn berchennog busnes 24/7 ac yn fam ac erbyn hyn rwy’n gaeth i fy ystafell wely, ac yn methu symud. Roedd yn teimlo bod fy mywyd wedi cael ei ddiffodd o ganlyniad i un camgymeriad, un cam anghywir.
‘Pe byddwn i’n gwybod mwy am y risgiau, gallwn i fod wedi gwneud gwell dewis o bosib am sut gwnes i’r naid ddiwethaf honno.’
Mae’r digwyddiadau hyn yn tynnu sylw at y canlyniadau difrifol iawn o ganlyniad i neidio o glogwyni’n mewn lleoliadau arfordirol a mewndirol yng Nghymru a welir yn y penawdau’n gyson. Mae neidio o dan ddylanwad alcohol yn arbennig o beryglus gan nad yw’n bosib deal y risgiau na’r canlyniadau’n iawn felly
Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn gweithio gyda’r sefydliadau sy’n perthyn i AdventureSmart UK, ymgyrch â’r nod o annog pobl i fwynhau’r awyr agored yn ddiogel ac edrych ar ffyrdd o leihau nifer yr achosion brys sy’n ymwneud â neidio ar glogwyni.
Mae’r grŵp yn annog neidwyr i ‘edrych 5 gwaith cyn neidio’.
- Pa mor oer? Ymdrochwch yn y dŵr yn gyntaf i ymgyfarwyddo ag oerni’r dŵr cyn i chi neidio.
- Oes rhwystrau? Gwisgwch fwgwd ac edrychwch i weld faint yw’r dyfnder, a oes creigiau, ysbwriel neu gychod gerllaw
- Ydy’r dŵr mor ddwfn â’i olwg mewn gwirionedd? Archwiliwch yn gyson; gall dyfnder dŵr newid yn gyson gyda’r llanw a maint y dŵr glaw
- Pa mor uchel, pa mor bell? Cychwynnwch mewn man isel a pheidiwch â neidio os nad ydych chi’n sicr y gallwch chi gyrraedd
- Pa mor hawdd yw mynd mas o’r dŵr? Fydd cerhyntau’n caniatau i chi fynd o’r dŵr?
Os ydych chi’n amau nad yw’n ddiogel – PEIDIWCH NEIDIO
Dywedodd Paul Donovan, Rheolwr Prosiect AdventureSmart UK: ‘Rydym yn gobeithio y bydd unrhyw un sy’n ystyried neidio i ddŵr, yn enwedig o uchder, yn ystyried yn ofalus a yw’n syniad da. Yn anffodus, mae canlyniadau gwneud camgymeriad yn ddifrifol iawn yn aml.”
Bydd y prosiect yn nodi safleoedd neidio poblogaidd, rhai arfordirol a rhai mewndirol ill dau; darparu astudiaethau achos o safleoedd problemus a chysylltu â thirfeddianwyr a’r gwasanaethau brys i ddarparu mesurau rheoli gwell i leihau lefel y risg.
Mae’r ymchwil hon wedi nodi 28 safle sy’n achosi pryder difrifol; 18 lleoliad arfordirol; 3 lleoliad mewndirol a 7 chwarel. Cynhaliwyd astudiaethau achos ym Mae Langlan; Rhaeadr Sgwd Gwladys; chwarel Burley Hill; Bae Caerdydd a harbwr Dinbych-y-pysgod.
Mae llawer o ystyriaethau a all newid yn ymwneud â neidio o glogwyni gan gynnwys dyfnder y dŵr, yn enwedig mewn lleoliadau arfordirol a all newid gyda’r llanw; mewn safleoedd mewndirol gall lefelau dŵr newid gyda glawiad/cyfnodau sych a gall y dŵr fod yn fwy bas na’i olwg; gall gwrthrychau tanddwr achosi marwolaeth neu anaf difrifol; gall sioc dŵr oer ei gwneud hi’n anodd nofio a gall cerhyntau cryfion ysgubo pobl ymaith yn gyflym.
Meddai Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru:
“Rydym wedi gweld nifer o ddigwyddiadau difrifol yn ddiweddar yng Nghymru yn gysylltiedig â phobl yn neidio i ddŵr o uchder ac rydym am i bobl ddeall y risgiau difrifol sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd hwn. Felly, rydym yn annog unrhyw un mewn neu ar ddŵr agored, neu’n agos at ddŵr agored i #Parchu’rDŵr a:
- Paratowch ymlaen llaw. Byddwch yn ymwybodol o’r risgiau a chymerwch gamau i gadw’n ddiogel.
- Os ewch chi i drafferth Arnofiwch i Fyw – gorweddwch ar eich cefn ac ymlaciwch, a pheidiwch â dilyn eich greddf i symud o gwmpas yn wyllt
- Galwch 999 mewn argyfwng a gofynnwch am Wyliwr y Glannau ar gyfer yr arfordir neu’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer dyfroedd mewndirol.
Mae strategaeth gyfathrebu â’r nod o leihau anaf hefyd yn cael ei datblygu ar gyfer y cyfryngau ar bob lefelau ac mae hi’n seiliedig ar y pum neges allweddol
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle