Tyfu ein heconomi werdd drwy Gefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel

0
307
Baglan Energy Park

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £58.7 miliwn.

Bydd y rhaglen yn helpu i sefydlu Dinas-ranbarth Bae Abertawe fel arweinydd ym maes twf carbon isel a’r economi werdd. Mae cydweithio’n agos â diwydiant, llywodraeth a’r byd academaidd yn allweddol i lwyddiant y rhaglen er mwyn sicrhau twf economaidd carbon isel, cynaliadwy a chynhwysol drwy greu’r amgylchedd cywir i ddatblygu technolegau newydd o’r cam ymchwil, hyd at y cam cynhyrchu, i gefnogi creu swyddi yn y rhanbarth.

Dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru fel partneriaid cyflawni, nod y rhaglen hon yw cefnogi’r gwaith o greu a diogelu 1,320 o swyddi yn yr economi werdd drwy saith prosiect cysylltiedig a fydd yn gwella seilwaith, ymchwil a datblygu a masnacheiddio:

Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe – adeilad effeithlon o ran ynni a fydd yn darparu lle hyblyg o ansawdd uchel ar gyfer swyddfeydd a labordai

Baglan Energy Park

Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru – cyfleuster pwrpasol ac offer arbenigol i ddatgarboneiddio’r diwydiant dur a metel a’r gadwyn gyflenwi

Cyfleuster cynhyrchu gweithgynhyrchu uwch – darparu unedau cynhyrchu â mynediad agored i offer arbenigol a rennir i gefnogi cwmnïau newydd a thwf busnesau lleol yn y sectorau arloesi a gweithgynhyrchu sy’n gysylltiedig ag ynni ac ynni adnewyddadwy

Cronfa datblygu eiddo – cyllid llenwi bwlch ar gyfer adeiladau pwrpasol a hapfasnachol yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot

Prosiect ysgogi hydrogen – galluogi arddangoswr i brofi hyfywedd masnachol cyflenwad hydrogen di-garbon ar gyfer cerbydau hydrogen

Prosiect monitro ansawdd aer – mainc arbrofi ar gyfer technoleg newydd i gael gwell dealltwriaeth o ansawdd aer a lefelau llygredd i lywio cynlluniau gweithredu lleol

Seilwaith gwefru cerbydau allyriadau isel – datblygu strategaeth i ddatgarboneiddio teithiau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe a datblygu cynllun peilot yn ardal y Cymoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot

Gall y rhaglen ddechrau defnyddio buddsoddiad o £47.7 miliwn drwy’r Fargen Ddinesig gan y ddwy lywodraeth i ategu’r swm o £5.5 miliwn yr ymrwymwyd iddo eisoes gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot a £5.5 miliwn o gyllid ychwanegol gan y sector preifat. Nod y rhaglen hefyd yw denu £40 miliwn o arian ychwanegol, yn ôl yr amcangyfrif, gan y sectorau preifat a chyhoeddus yn ystod y 5 mlynedd nesaf.

SB Technology Centre

Bydd y cyllid yn cynnig atebion i ddatgarboneiddio adeiladau masnachol a diwydiannol, trafnidiaeth a phrosesau diwydiannol a fydd yn cefnogi’r polisïau a’r strategaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Latham, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ardal Glannau’r Harbwr a Pharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot sy’n ategu

Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ynghyd ag effaith ranbarthol a chenedlaethol ehangach drwy ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a gweithlu medrus”.

Dywedodd James Davies, Diwydiant Cymru, “Nod y rhaglen o brosiectau yw trawsnewid diwydiant a chefnogi’r chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae’r ffocws ar Ymchwil, Datblygu ac Arloesi o ran ynni a deunyddiau uwch yn cyd-fynd yn dda ag agenda’r llywodraeth i ddatgarboneiddio a mentrau eraill fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru. Mae Diwydiant Cymru yn gryf o blaid y rhaglen waith uchelgeisiol a blaengar hon a all helpu i ddod â gweithgynhyrchu gwyrdd yn ôl i dde-orllewin Cymru a’i gynnal a hynny drwy roi cymorth i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a denu mewnfuddsoddiad o’r tu allan i’r rhanbarth.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru: “Wrth i ni ddod allan o argyfwng Covid, rydym yn benderfynol o symud Cymru ymlaen drwy broses adfer economaidd a gynlluniwyd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Byddwn yn helpu busnesau i newid i ddyfodol carbon isel a fydd yn sicrhau economi gryfach, decach a mwy gwyrdd.”

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru: “Mae’r fargen hon gwerth miliynau o bunnoedd yn hanfodol i greu swyddi a ffyniant ar draws rhan helaeth o dde Cymru. Pan ymwelais ym mis Gorffennaf, gwnaeth y prosiectau sy’n ysgogi’r newid i economi fodern carbon isel yng Nghymru, sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, argraff fawr arnaf. Rwy’n falch iawn y bydd buddsoddiad llywodraeth y DU yn cefnogi’r twf hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Rwy’n falch iawn bod y rhaglen hon wedi’i chymeradwyo sy’n golygu bod gennym bellach fwy o brosiectau a rhaglenni wedi’u cymeradwyo, a naill ai’n cael eu rhoi ar waith neu’n barod i gael eu rhoi ar waith, nag unrhyw fargen ddinesig neu fargen twf arall yng Nghymru. Rwyf am ganmol y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud i sicrhau ein bod yn rhoi’r fargen ddinesig ar waith yn ne-orllewin Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle