Skydive Elusen Gweithiwr Cymorth Ysbyty

0
442
Dorian James skydive

Mae gweithiwr cymorth iechyd ysbyty o Gaerfyrddin yn herio Diwrnod Naid am Nawdd i Ddiolch yn Fawr y GIG ar 25 Medi i godi arian ar gyfer ward Dewi yn Ysbyty Glangwili, lle mae’n gweithio.

Dywedodd Dorian James: “Mae ward Dewi wedi rhoi cyfleoedd anhygoel i mi ac wedi dysgu cymaint i mi dros y flwyddyn ddiwethaf, felly rydw i eisiau dangos fy ngwerthfawrogiad a rhoi rhywbeth yn ôl.

Dorian James skydive

“Bydd unrhyw arian a godaf yn mynd tuag at offer ar gyfer ward Dewi i helpu cleifion ar y ffordd i wella.

“Dechreuais weithio ar y ward ar ddechrau’r pandemig ac, yn ystod yr amser hwn, rwyf wedi gweld yr enghreifftiau mwyaf o ymdrech dynol, caredigrwydd, anhunanoldeb ac ymroddiad, gan staff a chleifion fel ei gilydd.”

Bydd Dorian yn gwneud ei naid ym Maes Awyr Abertawe a gallwch ei gefnogi yma http://www.justgiving.com/Anton-James1.

Dorian James skydive

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda, eu bod mor ddiolchgar i’r nifer fawr o staff lleol y GIG sy’n codi arian i helpu eu cleifion a’u cydweithwyr.

“Mae cefnogaeth ein staff a’n cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei darparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu cefnogi cleifion y GIG lleol a staff, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle