Cronfa adfer Covid gwerth £48miliwn i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru

0
265

Welsh Government News

Heddiw (dydd Mawrth 14 Medi), mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi pecyn newydd gwerth £48 miliwn o gyllid i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid – £40 miliwn – wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol a chaiff ei ddefnyddio i helpu’r sector gofal cymdeithasol i ymateb i’r heriau parhaus a achosir gan y pandemig.

Bydd £8 miliwn arall yn ariannu nifer o flaenoriaethau penodol, gan gynnwys ymestyn y gronfa cymorth i ofalwyr; mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn; buddsoddi mewn lles y gweithlu gofal cymdeithasol ac mewn gwasanaethau preswyl i blant â phrofiad o fod mewn gofal.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

“Mae gofal cymdeithasol yn uchel iawn ei werth inni yma yng Nghymru ac rydym yn gofyn llawer o’r sector. Mae’n wynebu pwysau sylweddol o ganlyniad i’r pandemig ac – yn union fel staff y GIG – mae’r gweithlu wedi blino’n lân ar ôl gweithio mor galed cyhyd.

“Mae’r cyllid newydd hwn yn cydnabod yr heriau y mae’r sector yn eu hwynebu a bydd yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r pwysau ariannol y mae’n eu hwynebu. Mae hefyd yn cynnwys cyllid newydd i fuddsoddi mewn meysydd blaenoriaeth i wella gwasanaethau, yn unol â’n huchelgeisiau a’n hymrwymiadau.

“Byddwn yn parhau i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru ac, wrth i ni wella o’r pandemig, byddwn yn adeiladu sector gofal cymdeithasol cryf a chydnerth.”

Dyraniadau’r gronfa adfer ar gyfer gofal cymdeithasol:

  • £40,000,000 miliwn i awdurdodau lleol
  • £2,800,000 miliwn i’r Gronfa Ymyrraeth Deuluol i gefnogi llesiant plant a theuluoedd i ddargyfeirio achosion yn ddiogel rhag gofrestru amddiffyn plant
  • £2,800,000 miliwn ar gyfer gwasanaethau preswyl rhanbarthol ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal sydd ag anghenion cymhleth (llety diogel i blant ag anghenion cymhleth gynt)
  • £1,000,000 filiwn i barhau â’r gronfa cymorth i ofalwyr
  • £600,000 ar gyfer archwiliadau iechyd anabledd dysgu
  • £220,000 i gefnogi pobl hŷn i ymwneud unwaith eto â’u cymunedau
  • £100,000 i hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn
  • £150,000 i gefnogi Cartref Plant Diogel Hillside
  • £190,000 i wella’r cynnig llesiant i’r gweithlu gofal cymdeithasol
  • £140,000 i ADSS Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r fframwaith adfer

Bydd grwpiau sy’n cefnogi pobl hŷn i ymwneud â’u cymunedau ac yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd yn cael £220,000 o gronfa gwerth £48 miliwn Llywodraeth Cymru i helpu’r sector gofal cymdeithasol i adfer yn sgil Covid.

Mae pobl hŷn yn cymryd rhan weithredol mewn grwpiau cymdeithasol yn eu cymunedau. Bydd y gronfa yn eu hailgyflwyno i’r gweithgareddau yr oeddent yn cymryd rhan ynddynt cyn y pandemig, yn ailadeiladu eu hyder ac yn eu helpu i ymwneud unwaith eto â’u cymunedau ar ôl y pandemig.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i wella o’r pandemig ac i symud ymlaen. Mae’r cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn rhan o becyn ehangach a fydd yn helpu gwasanaethau fel y rhain i reoli effeithiau parhaus Covid a darparu gofal o ansawdd uchel i bobl.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle