Cadeirydd Awdurdod y Parc yn wynebu Her Llwybr yr Arfordir

0
493
Capsiwn: Bydd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dathlu hanner canmlwyddiant Llwybr yr Arfordir drwy gerdded y daith 186 milltir ar ei hyd.

Yr hydref hwn, bydd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro.

Roedd y daith gerdded wedi’i chynllunio ar gyfer 2020 i nodi 50 mlynedd ers bodolaeth y llwybr, ond cafodd ei gohirio o ganlyniad i gyfyngiadau’r cyfnod clo. Mae’r Cynghorydd Harries yn awr yn gobeithio dechrau’r her ddydd Iau 16 Medi.

Agorwyd y Llwybr Cenedlaethol 186 milltir o hyd, sy’n ymestyn o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de, yn swyddogol yn 1970, bum mlynedd ar ôl dechrau’r gwaith o’i naddu drwy’r clogwyni. Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith peryglus hwn ei wneud gan Bristol Bulldozers, gan ddefnyddio’r peiriant lleiaf o’i fath yn benodol ar gyfer torri drwy’r bryniau serth.

Mae Llwybr Arfordir Penfro wedi’i ddisgrifio gan Lonely Planet fel “un o’r llwybrau hir mwyaf trawiadol ym Mhrydain”, ac erbyn hyn mae’n denu dros filiwn o ymwelwyr bob blwyddyn, gan gynhyrchu degau o filiynau ar gyfer yr economi leol. Mae hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr Rhyngwladol Appalachian.

Er bod digon i’w weld ar hyd y llwybr, gan ei fod yn eich tywys heibio 43 o safleoedd o’r Oes Haearn a’r ffaith bod 75 y cant ohono’n pasio drwy safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth a Gwarchod Arbennig, nid yw cwblhau’r llwybr cyfan yn dasg hawdd a dweud y lleiaf. Mae 35,000 troedfedd o lethrau a disgynfeydd ar y llwybr, sy’n gyfystyr â dringo i gopa Everest.

Dywedodd y Cynghorydd Harries: “Rydw i wedi cerdded sawl rhan o’r llwybr yn y gogledd, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddarganfod rhai o’r rhannau deheuol sy’n llai cyfarwydd i mi.

“Llwybr yr Arfordir yw un o asedau mwyaf y Parc Cenedlaethol, a does dim llawer o ffyrdd gwell o ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed na cherdded ar hyd y llwybr cyfan.”

Bydd y Cynghorydd Harries, sydd hefyd yn gynghorydd sir Tudraeth, yn dechrau ei daith gerdded yn Llandudoch am 9am, a bydd ffrindiau ac aelodau o staff yr Awdurdod yn ymuno ag ef ar hyd rhannau o’r daith. Bydd yr amserlen y tu hwnt i hyn yn dibynnu ar y tywydd a lefelau egni personol, ond bydd y lluniau diweddaraf yn cael eu rhoi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Awdurdod.

I ddilyn hynt y Cynghorydd Harries ar hyd Llwybr yr Arfordir, hoffwch dudalen Facebook yr Awdurdod @PembrokeshireCoast, neu dilynwch @PembsCoast ar Twitter.

Mae rhagor o wybodaeth am Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/llwybr-arfordir/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle