ae nwyddau i hyrwyddo porc tymhorol yr haf sydd yn cynnwys ryseitiau blasus iawn a thoriadau porc arddangos wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda chigyddion, cynhyrchwyr porc a manwerthwyr ledled Cymru.
Unwaith eto mae Menter Moch Cymru mewn cydweithrediad a Hybu Cig Cymru wedi anfon nwyddau tymhorol pwynt gwerthu (POS), am ddim gyda’r bwriad o ysbrydoli cwsmeriaid i brynu mwy o borc o Gymru ac i roi cynnig ar ryseitiau newydd cyffrous.
Roedd yr ystod o ddeunyddiau a anfonwyd at fanwerthwyr a chigyddion yn cynnwys 2 rysáit dymhorol, posteri torri porc a phosteri ryseitiau, mae’r rhain wedi’u cynllunio bob blwyddyn gyda’r bwriad o annog cwsmeriaid i brynu porc o Gymru ac i siopa yn eu cigyddion a’u manwerthwyr lleol neu’n uniongyrchol oddi wrth cynhyrchwyr.
Y ryseitiau blasus, blasus ar y cardiau yr haf hwn yw’r golwythion porc trwchus gyda saets, garlleg a lemwn, sy’n ddelfrydol ar gyfer bwyta al-fresco a’r tymor barbeciw, yn ogystal â chyfarwyddiadau ar sut i wneud yr wyau sgotsh melynwy perffaith – perffaith
ar gyfer picnics.
Dywedodd Ffion Haf Roberts o gigyddion TJ Roberts & Son yn y Bala:
“Mae’r nwyddau POS yn ddiddorol iawn ac yn drawiadol, ac mae’r ryseitiau’n hawdd eu deall a’u coginio. Mae’n syniad gwych sy’n ysbrydoli cwsmeriaid.”
Dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad Hybu Cig Cymru: “Mae’n bwysig iawn ein bod yn cefnogi busnesau lleol sy’n asgwrn cefn i’n cymunedau lleol drwy eu helpu gyda hyrwyddo fel hyn.”
“Drwy werthu mwy o gig lleol, boed yn borc, eidion neu gig oen mae busnesau lleol
ar hyd y gadwyn gyflenwi yn elwa. Mae yna fudd mawr i’r cwsmer hefyd gan eu bod yn gwybod fod y cynyrch yma yn cael ei gynhyrchu yn gynaladwy i safon uchel a’i fod yn blasu yn arbennig,” ychwanegodd.
Mae’r Menter Moch Cymru wedi gweithio ar y cyd â Hybu Cig Cymru i ddatblygu y nwyddau pwynt gwerthu am ddim ar gyfer busnesau ers nifer o flynyddoedd. Rhoddir y nwyddau tymhorol i fusnesau ar gyfer tymor yr haf, tymor y gaeaf / Nadolig a phecyn ychwanegol ar gyfer wythnos flynyddol Porc o Gymru. Gall busnesau gysylltu â Menter Moch Cymru i ddarganfod sut i dderbyn mwynddau pwynt gwerthu yn y dyfodol – www.mentermochcymru.co.uk.
Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Moch Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd unwaith eto gyda’r nwyddau pwynt gwerthu a anfonwyd allan yr haf hwn. Mae’r posteri a’r cardiau rysáit yn drawiadol ac yn anelu at annog cwsmeriaid i roi cynnig ar ryseitiau newydd, gan ddefnyddio porc blasus o Gymru.”
Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle