Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyhoeddi galwad frys i unrhyw un sy’n ddyledus am ail frechlyn Moderna

0
227

Mae preswylwyr sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu hannog i wirio eu cerdyn brechu a dod ymlaen am eu hail frechlyn Moderna os ydynt yn aros.

Gofynnir i unrhyw un sy’n agosáu at 8 wythnos ers dos cyntaf Moderna gysylltu â thîm archebu brechlyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i wneud apwyntiad cyn gynted â phosibl trwy ffonio 0300 303 8322 neu drwy e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk neu fynychu clinig cerdded i mewn yn eu canolfan brechu torfol agosaf.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein canolfannau brechu torfol yn cysylltu â phobl sy’n aros am ail ddos o Moderna yn uniongyrchol ond rhag ofn bod unrhyw un yn colli galwad gennym ni, rydyn ni am sicrhau bod pawb sy’n ddyledus am ail ddos, yn enwedig Moderna, yn gwybod ein bod yn gofyn iddynt ddod ymlaen cyn gynted â phosibl.

“Mae’n bwysig derbyn dau ddos o’r brechlyn, ni waeth pa un a gawsoch, er mwn cael yr amddiffyniad tymor hir gorau.

“Mae brechlyn Moderna hefyd ar gael ym mhob clinig cerdded i mewn ar draws y tair sir a’r fan brechu symudol a fydd yn ymweld â siop Tesco Rhydaman ddydd Gwener 17 a dydd Sadwrn 18 Medi.”

Os cawsoch ddos cyntaf o Moderna 8 wythnos neu fwy yn ôl, gallwch hefyd fynd i’ch canolfan leol heb apwyntiad yn ystod yr amseroedd canlynol:

Oriau agor cerdded i mewn:

  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS) – ar agor o ddydd Llun 13 i ddydd Iau 16 Medi rhwng 10.00am a 6.00pm. Brechlynnau Pfizer a Moderna ar gael. AstraZeneca ar gael ddydd Iau 16 Medi yn unig.
  • Rhydaman (maes parcio Tesco, Fan Brechu Symudol) – Dydd Gwener 17 Medi a dydd Sadwrn 18 Medi rhwng 11.00am a 7.00pm.
  • Halliwell cerdded i mewn Caerfyrddin (hen Feithrinfa Y Gamfa Wen, UWTSD, SA31 3EP) – ar agor o ddydd Llun 13 i ddydd Iau 16 Medi rhwng 10.00am a 4.00pm. Brechlynnau Pfizer a Moderna ar gael.
  • Gyrru trwodd Caerfyrddin (Maes Sioe’r Siroedd Unedig, SA33 5DR) – ar agor o ddydd Llun 13 i ddydd Iau 16 Medi rhwng 10am a 6pm. Brechlyn Moderna ar gael.
  • Cwm-cou (Ysgol Trewen, SA38 9PE) – Ar agor dydd Mercher 15 a dydd Iau 16 Medi rhwng 9.30am a 9pm. Brechlyn Pfizer a Moderna ar gael.
  • Hwlffordd (Archifau Sir Benfro, SA61 2PE) – ar agor o ddydd Llun 13 i ddydd Iau 16 Medi rhwng 10am a 6pm. Brechlynnau Pfizer a Moderna ar gael. AstraZeneca ar gael rhwng 10am a 4pm yn unig ddydd Iau 16 Medi.
  • Llanelli (Ystad Ddiwydiannol Dafen, Uned 2a, Heol Cropin, SA14 8QW) – ar agor o ddydd Llun 13 i ddydd Iau 16 Medi rhwng 10am a 4pm. Brechlynnau Pfizer a Moderna ar gael. AstraZeneca ar gael ddydd Iau 16 Medi yn unig.
  • Dinbych-y-pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod, SA70 8EJ) – ar agor bob dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul ar gyfer cerdded i mewn rhwng 10am a 4pm. Brechlynnau Pfizer, AstraZeneca a Moderna ar gael.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle