Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ar doriad Llywodraeth y DU i’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol

0
284

Welsh Government News

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ar doriad Llywodraeth y DU i’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol

Mewn sesiwn drafod yn y Senedd ar Gredyd Cynhwysol heddiw, condemniodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, Lywodraeth y DU yn llym oherwydd ei chynllun i dorri’r cynnydd o £20 yr wythnos, a fydd yn golygu bod miloedd o unigolion ledled Cymru, p’un a ydyn nhw mewn gwaith neu beidio, yn waeth eu byd.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’n anghredadwy y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr yn dewis troi cefn ar y rhai sydd ein hangen fwyaf ac a chwaraeodd eu rhan wrth amddiffyn ein gwlad rhag Covid-19.

Ers yr haf diwethaf, rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y cynnydd o £20 yr wythnos yn barhaol.

Yn ein llythyr diweddaraf, a lofnodwyd ar y cyd â Gweinidogion o Lywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, fe ofynnom i Lywodraeth y Deyrnas Unedig rannu gyda ni ei hasesiad hi o’r effaith y byddai torri’r gynhaliaeth hanfodol hon o £20 yn ei chael ar lefelau tlodi.

Dydyn ni ddim wedi cael ymateb o hyd.

Ac os nad oedd y toriad hwn o £20 yr wythnos yn ddigon eithafol, fe allwn ychwanegu at hynny ddiwedd y cyfnod ffyrlo, y cynnydd mewn costau tanwydd, y cyfnod aros diangen o 5 wythnos, a’r cyhoeddiad diweddar y bydd Llywodraeth y DU yn cynyddu yswiriant gwladol. Cam a allai ei gwneud yn amhosibl i deuluoedd sydd eisoes yn byw ar y gwynt gario ymlaen, yn ôl ei hadran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ei hun.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri cynhaliaeth rhai o bobl fwyaf di-freintiedig ein cymdeithas.

Mae’r rhybuddion a’r dystiolaeth yn glir. Y rhai sydd fwyaf angen rhwyd ddiogelwch, sydd fwyaf angen i’w Llywodraeth sefyll drostyn nhw, fydd yn dioddef.”

Wrth amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog:

“Mae colli’r £20 yr wythnos yn golygu bod aelwydydd ledled Cymru yn carlamu tuag at ddibyn ariannol. Mae’n hanfodol i ni helpu pobl i ddelio â’r anawsterau ariannol sydd o’u blaen nawr.

Yn Tlodi Plant – Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm, fe wnaethom ni ddarparu amrywiaeth o brosiectau a oedd â nod syml – rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.

Rwy’n falch bod yr holl brosiectau wedi bod yn llwyddiannus, gan gynnwys ein hymgyrch genedlaethol gyntaf i annog pobl i hawlio budd-daliadau lles, a helpodd pobl i hawlio dros £650,000 o incwm budd-daliadau lles yn ystod mis Mawrth.

Byddwn yn cynnal ein hail ymgyrch genedlaethol ar y mater yr hydref hwn.

Mae’r pandemig wedi arwain at weld pobl ledled Cymru yn troi at y Gronfa Cymorth Dewisol am gymorth gyda’r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu. 

Fe symudom yn gyflym i gryfhau’r gefnogaeth y gallem ei chynnig drwy’r Gronfa honno, a gafodd £25.4m yn ychwanegol o gyllid yn ystod y pandemig.

Yn olaf, dywedodd y Gweinidog:

“Pan fo gymaint o wrthwynebiad i dorri’r £20, mae’n sefyllfa gwbl warthus, amhosibl ei chyfiawnhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwrando ac yn gwrthod amddiffyn y rhai mwyaf anghenus.

Mae’n amlwg bod cyni yn ôl ar yr agenda i’r tlotaf a’r rhai ar y cyflogau isaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle