Dechrau cyflwyno brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 yng Nghymru

0
235
Booster vaccine

Welsh Government News

Heddiw [dydd Iau 16 Medi], wrth ddechrau ar y gwaith o gyflwyno rhaglen brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 yng Nghymru, staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) sy’n gweithio yn y Gogledd fydd y bobl gyntaf yng Nghymru i gael brechlyn atgyfnerthu.
Dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gynnig y brechlyn atgyfnerthu i’w staff ddyddiau’n unig ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyhoeddi ei gyngor terfynol am raglen atgyfnerthu’r hydref.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dechrau ar ei raglen brechlynnau atgyfnerthu ddydd Sadwrn, gan ddechrau gyda phreswylwyr cartrefi gofal.

Mae byrddau iechyd Bae Abertawe, Hywel Dda, Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Phowys i gyd wedi cadarnhau y byddant yn dechrau cynnig y brechlyn atgyfnerthu i breswylwyr cartrefi gofal a staff gofal iechyd o ddydd Llun [20 Medi].

Cadarnhaodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, fod Cymru wedi derbyn cyngor y JCVI i gynnig dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19 i bawb dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen a phobl sydd â chyflyrau iechyd arnynt eisoes – pobl yng ngrwpiau blaenoriaeth un i naw.

Bydd y JCVI yn ystyried brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer oedolion eraill yn ddiweddarach.

Bydd llythyrau sy’n gwahodd pobl ifanc 12 i 15 oed i gael un dos o’r brechlyn Pfizer yn dechrau cael eu hanfon at bobl yr wythnos nesaf a disgwylir y bydd y gwaith o roi’r brechlynnau cyntaf yn dechrau o 4 Hydref ymlaen.

Bydd yr holl frechlynnau’n cael eu darparu naill ai mewn cartrefi gofal, mewn canolfannau brechu torfol, ysbytai neu feddygfeydd. Bydd pobl yn cael gwybod lle y byddant yn mynd i gael eu brechu pan fyddant yn cael eu gwahodd.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae rhaglen frechu Cymru wedi bod yn un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn y byd i gyd ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd i ddarparu brechlyn atgyfnerthu’r hydref yn ddiogel ac yn effeithlon. 

“Byddwn i’n annog pawb sy’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu fanteisio ar y cynnig pan fyddan nhw’n cael eu galw am apwyntiad, gan fod posibilrwydd y bydd imiwnedd o’u dosau cynharach o’r brechlyn yn lleihau wrth i amser fynd heibio.

“Os nad ydych chi wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn eto, ‘dyw hi ddim yn rhy hwyr. Rwy’n annog unrhyw un sydd heb fanteisio ar y cynnig eto i wneud hynny.”

Dywedodd Dr Gill Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol gyda chyfrifoldeb dros Frechlynnau:

“Heddiw, mae’r dosau cyntaf o’r brechlyn atgyfnerthu wedi’u rhoi i staff gofal iechyd y rheng flaen sy’n gofalu am rai o’n hunigolion mwyaf agored i niwed wrth inni barhau i ddiogelu unigolion rhag y feirws, salwch difrifol a’r risg y bydd raid iddyn nhw gael eu derbyn i’r ysbyty.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld y manteision sy’n deillio o sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl wedi cael eu brechu ac rydyn ni wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn drwy gydol yr haf. Brechlynnau yw ein hamddiffyniad cryfaf o hyd rhag y feirws ac i gynnal y lefelau imiwnedd a gyflawnwyd gan bobl.”

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i aros nes eu bod yn cael eu gwahodd i gael eu brechlynnau atgyfnerthu ac i beidio â chysylltu â’r GIG na gwasanaethau iechyd i ofyn am frechlyn atgyfnerthu COVID-19.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle