Dilynwch daith emosiynol Sioned i fod yn un o fenywod cryfaf Cymru

0
492

O fod yn berson swil i fod yn un o’r menywod cryfaf yng Nghymru, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn newid byd ar fywyd Sioned Halpin.

Mewn rhaglen arbennig ar S4C, bydd y camerâu yn dilyn Sioned wrth iddi ymarfer yn galed ar gyfer Pencampwriaeth Cymraes Gryfa. Yn ogystal â dilyn ei thaith tra’n paratoi at y gystadleuaeth fawr, byddwn ni’n dod i nabod Sioned, o Gydweli, a dysgu sut mae codi pwysau wedi trawsnewid ei bywyd a bod yn gymorth iddi tra’n dygymod â chyfnod anodd yn ei bywyd.

Bydd y rhaglen Cryfder Sioned Halpin ymlaen am 9.00yh ar nos Fercher 22 Medi.

Meddai Sioned: “Oedd yr hen Sioned yn shei, ddim eisiau mynd i unman. Oeddwn i ddim yn hyderus o gwbl. Fi’n wahanol berson i beth oeddwn i biti 10 years yn ôl. I fi wneud y gystadleuaeth hwn, mae’n brofiad mawr yn ei hunan.

“Ges i fy mwlio lot yn ysgol. Bob amser cinio oeddwn i’n cwato yn y toiled. Doeddwn i ddim eisiau nabod neb arall a gymerais i stepen yn ôl. Amdano pwysau oedd e i gyd rili.

“Fi di bod yn eitha’ o seis ers oeddwn i’n ysgol a does ddim lot wedi newid, ond yn lle trio colli gymaint o bwysau, fel wyth neu naw stôn, nes i feddwl, ‘just embrace it a gwna rhywbeth sy’n gwneud ti yn hapus. Mae edrych nôl ar y person oeddwn i yn rhoi bach o ammunition i fi i trainio yn fwy caled ac mae’n rhoi lot fwy o hyder i fi. Sa’i cweit yn siŵr beth fyddai fy mywyd fel taswn i heb wneud e nawr.”

Yn ystod y rhaglen, byddwn ni’n clywed gan y rhai sydd yn cefnogi Sioned drwy’r holl baratoadau, gan gynnwys ei hyfforddwr Hywel Owen-Thomas, ei phartner hyfforddi a chyn enillydd y Gymraes Gryfa, Sioned Owen-Thomas, ac enillydd cystadleuaeth Dyn Cryfaf Prydain dros y ddwy flynedd diwethaf, Gavin Bilton, o Gaerffili.

Meddai Gavin: “Mi wyt ti’n adnabod ei thalent yn syth. Dyw hi ddim yn cymryd ei hunan o ddifrif, ond beth mae hi yn cymryd  o ddifrif yw ei pharatoadau, a’i huchelgais i fod y person cryfaf  sy’n bosib iddi fod. Mae’n anhygoel i’w gweld. Fi wir yn credu fe allai hi fod yn un o’r goreuon. Weithiau mae hi’n amau ei hunan, ond mae hi’n gryfach na mae hi’n gwybod.”

Cryfder Sioned Halpin
Nos Fercher 22 Medi, 9.00
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle