Mae’r gŵr a’r gwraig Steve a Charlotte Baxter o Welsh Hot Tubs wedi rhoi £5,000 i’r Uned Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.
Penderfynodd y cwpl, y mae eu busnes @welshhottubs wedi’i leoli yn Llangwyryfon, ger Aberystwyth, roi cyfran o bob gwerthiant yn ystod y cyfnod clo cyntaf fel diolch i’r uned am ofalu am Charlotte ar ôl ei diagnosis canser y fron.
Cafodd Charlotte, mam i ddau o blant, 38, ei diagnosio ychydig cyn y cyfnod clo ac ar ôl triniaeth o gan yr oncolegydd Dr Elin Jones yn Ysbyty Bronglais mae hi bellach wedi gwella.
Dywedodd Steve a Charlotte fod staff y Gwasanaethau Canser yn wych ar adeg anodd iawn iddyn nhw.
“Fe wnaeth y diagnosis ein taro’n galed, yn enwedig pan ddaeth y pandemig mor fuan wedi hynny, ond roedd y staff yn Ysbyty Bronglais yn wych,” meddai’r cwpl.
“Fe wnaethon ni sylweddoli cymaint maen nhw’n ei wneud yn Ysbyty Bronglais ac roedden ni eisiau rhoi rhodd a fyddai’n helpu pobl leol sydd angen cyrchu’r gwasanaethau canser yn y dyfodol.”
Dywedodd y cwpl eu bod hefyd eisiau diolch i deulu a ffrindiau am eu cefnogaeth yn ystod cyfnod mor anodd.
Derbyniodd Oncolegydd Ysbyty Bronglais, Dr Elin Jones, y siec gan y cwpl yn ddiweddar a dywedodd: “Mae mor galonogol, hyd yn oed trwy COVID-19 a’i gyfyngiadau, fod pobl fel y Baxters wedi mynd i gymaint o ymdrech i godi arian ar gyfer yr Uned Chemo, ”meddai Dr Elin.
“Rwyf am ddweud diolch arbennig i Steve a Charlotte am wneud rhywbeth mor bositif.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle