Mae ymchwil newydd gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi tynnu sylw at ddiffyg cytundeb ymhlith y cyhoedd ynghylch pigiadau atgyfnerthu o ran Covid-19 a brechu rhag y ffliw.
Gwnaeth yr astudiaeth gan Dr Simon Williams ddatgelu sut mae agweddau pobl tuag at bigiadau atgyfnerthu o ran Covid-19 yn cyfateb i’w hagweddau tuag at gael eu brechu yn y lle cyntaf â mae’r rhai a oedd yn amheus ynghylch cael eu brechu yn y lle cyntaf hefyd yn ansicr ynghylch pigiadau atgyfnerthu. Mae’r rhai a oedd yn awyddus i gael eu brechu yn y lle cyntaf yn tueddu i weld pigiadau atgyfnerthu fel estyniad o’u brechiadau blaenorol.
Mae’r astudiaeth newydd gael ei chyhoeddi ar wefan PsyArXiv , a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu canfyddiadau newydd ar bynciau llosg cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i’w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (*rhagor o wybodaeth isod).
Roedd prif ganfyddiadau’r astudiaeth fel a ganlyn:
Mae bwriadau tuag at bigiadau atgyfnerthu’n cyfateb i benderfyniadau ar frechiadau cychwynnol.
Mae barn gymysg am bigiadau atgyfnerthu a brechu rhag y ffliw. Mae rhai pobl yn poeni y gallai cael pigiadau atgyfnerthu a brechiad rhag y ffliw ar yr un pryd ryngweithio i gael sgil-effeithiau annymunol.
Mae angen i’r negeseuon ynghylch pigiadau atgyfnerthu ystyried y ffaith bod rhai pobl yn amheus o hyd ynghylch cael eu brechu rhag Covid-19. Mae angen pwysleisio bod pigiadau atgyfnerthu’n ffordd o gynnal imiwnedd dros amser ac yn weithred ar y cyd i ddiogelu pobl eraill ac i ddiogelu normalrwydd.
Mae angen i negeseuon ynghylch pigiadau atgyfnerthu a brechu rhag y ffliw bwysleisio eu bod yn ddiogel ac yn gyfleus a bod y ddau ohonynt yn bwysig, yn enwedig i’r rhai sy’n agored i niwed yn glinigol.
Yr astudiaeth yw adroddiad diweddaraf prosiect Barn y Cyhoedd am Bandemig Covid-19 Prifysgol Abertawe. Mae’r gwaith ymchwil wedi cynnwys trefnu grwpiau ffocws ar-lein a chyfweliadau â phobl o bob rhan o’r DU, gan archwilio eu barn a’u profiadau ynghylch amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â’r pandemig, gan gynnwys brechiadau o ran Covid-19.
Meddai Dr Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Pobl a Sefydliadau: âGallai negeseuon ynghylch pigiadau atgyfnerthu o ran Covid-19 gyfleu’r ffaith bod y rhai sydd eisoes wedi cael eu brechu rhag Covid-19 yn gweld y pigiad atgyfnerthu fel ffordd o ymestyn eu himiwnedd. Gan fod y mwyafrif helaeth o oedolion, yn enwedig oedolion hšn ac aelodau o grwpiau sy’n agored i niwed, wedi cael eu brechiadau cychwynnol, byddwn yn disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl dderbyn pigiadau atgyfnerthu pan fyddant yn cael eu cynnig.
âEr bod llawer o bobl yn amheus pan oedd brechlynnau o ran Covid-19 yn cael eu datblygu yn y lle cyntaf, mae’r rhan fwyaf o bobl yn debygol o weld bod pigiadau atgyfnerthu’n llai newydd ac, o ganlyniad i hynny, yn llai peryglus o ran sgil-effeithiau posib. Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n dal i fod yn amheus am eu penderfyniad i gael eu brechu yn y lle cyntaf yn tueddu i fod yn llai cefnogol o’r syniad o gael pigiadau atgyfnerthu.
âMae neges allweddol arall yn ymwneud â gweld pigiadau atgyfnerthu fel ffordd o ddiogelu’r rhyddid rydym yn ei fwynhau ar hyn o bryd ac o osgoi cyfyngiadau yn y dyfodol. Yn hyn o beth, gellir gweld pigiadau atgyfnerthu fel gweithred ar y cyd a all helpu i ddiogelu normalrwydd.
âMae un testun pryder yn ymwneud â nifer y bobl sy’n debygol o gael eu brechu rhag y ffliw yn ystod y gaeaf. Yn yr astudiaeth hon, roedd rhai pobl yn poeni am y posibilrwydd y byddai pigiad atgyfnerthu o ran Covid-19 yn rhyngweithio â brechiad rhag y ffliw pe baent yn cael eu rhoi ar yr un pryd. Mae’n bwysig bod awdurdodau iechyd yn cyfleu’r glir i bobl yn y categorĂŻau perthnasol ei bod hi’n ddiogel cael y ddau frechlyn ar yr un pryd, a’i bod hi’n bwysig diogelu eu hunain a phobl eraill dros y misoedd nesaf.â
Mae’r astudiaeth hon yn rhagargraffiad ac yn adroddiad rhagarweiniol gwaith sydd heb ei ardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid. Ni ddylid dibynnu ar ragargraffiad i lywio ymarfer clinigol nac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd ac ni ddylai’r cyfryngau sĂ´n am ei ddeunydd fel gwybodaeth sefydledig.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle