Pob lwc i Arwyn Davies sy’n cymryd rhan mewn ras 10k y penwythnos hwn i godi arian ar gyfer y Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais.
Dywedodd y gĹľr 51 oed o Talsarn, syân Rheolwr Corfforaethol ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion, ei fod eisiau codi arian ar gyfer yr Uned Cemotherapi ar Ă´l derbyn triniaeth ragorol yno yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer canser y coluddyn.
Mae Arwyn wedi bod yn rhedeg rhwng 20 a 30 milltir yr wythnos i baratoi ei hun ar gyfer Ras Bae Caerdydd Brecon Carreg, a gynhelir ddydd Sul, 26ain Medi.
Meddai: âDair blynedd ar Ă´l dechrau fy nhriniaeth cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer canser y coluddyn, rydw i’n cymryd rhan yn fy ras 10k cyntaf i godi arian ar gyfer yr ymdrechion i uwchraddio’r Uned Cemotherapi.
âRoedd y driniaeth a gefais yno bryd hynny, ac mae cannoedd o bobl eraill yn parhau iâw derbyn yno, yn rhagorol, ac rydw i eisiau helpu i sicrhau bod yr adnoddau gorau posib ar gael i gleifion yng Ngheredigion a chanolbarth Cymru.
Mae Arwyn eisoes wedi helpu i godi ÂŁ10,000 tuag at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais.
âCododd cĂ´r Bois y Gilfach, rwyân aelod ohono, ÂŁ10,000 tuag at yr uned yn 2019,â ychwanegodd. âFe wnes i drefnu cyngerdd yn Llanbed, a gododd y mwyafrif oâr arian hwnnw.â
Wedi’i leoli yng nghanol Bae hanesyddol Caerdydd, mae Ras Bae Caerdydd Brecon Carreg yn ddigwyddiad gwastad, cyflym a chyfeillgar i bob oed a gallu.
Dywedodd Arwyn: âMaeâr ymarfer wedi bod yn mynd yn dda. Dechreuais redeg ym mis Mawrth ac rwyf wedi gwneud nifer o rasys 10k wrth hyfforddi. Rwy’n gwneud Parkrun Llanerhaeron bob wythnos hefyd – ers iddyn nhw ailgychwyn ym mis Awst. “
I gyfrannu at her Arwyn, ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/arwyn-davies2
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod am ddiolch i Arwyn am ei ymdrech godi arian.
âMae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt iâr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn, âmeddai Nicola.
I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle