Elusennau Iechyd Hywel Dda ar lansiad ein helusen newydd Loteri!

0
265

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi lansio loteri elusennol newydd i godi arian ar gyfer y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – gan gynnig cyfle i ennill jacpot wythnosol o £25,000.

Am £1 yr wythnos, gallai chwaraewyr fod â siawns o ennill hyd at £25,000, wrth helpu i godi arian i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff Hywel Dda.

Dyrennir rhif loteri chwe digid unigryw i chwaraewyr, a fydd yn parhau cyhyd ag y dymunant barhau i chwarae.

Bob dydd Gwener, tynnir rhif ar hap. Os yw 3, 4, 5, neu bob un o’r 6 digid yn y lle cywir yn y dilyniant, yna rydych chi’n enillydd!

Gyda chwe digid, y wobr jacpot wythnosol yw £25,000. Pum digid i ennill £1,000 neu bedwar digid i ennill £25. Ac mae 3 digid yn rhoi pum cais am ddim i’r raffl nesaf.

Nid oes angen i enillwyr lwcus hawlio hyd yn oed. Anfonir eu gwobrau atynt yn awtomatig.

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, Tara Nickerson: “Rydym yn falch o fod yn lansio ein loteri elusennol, mewn partneriaeth â www.unitylottery.co.uk, a fydd yn rhoi cyfle i’n cymunedau ennill hyd at £25,000 yr wythnos, tra hefyd yn codi arian i gefnogi ein gwaith.

“Bydd elw ein loteri elusennol yn cael ei defnyddio i gefnogi a gwella gwasanaethau’r GIG a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu, er enghraifft cyllid ar gyfer yr offer meddygol mwyaf diweddar, cysuron ychwagegol i gleifion, a dysgu, datblygu a llesiant staff.

“Gwahoddir staff y bwrdd iechyd i gyflwyno cynigion yn rheolaidd fel y gall elw’r loteri ariannu amrywiaeth o welliannau ar draws ardal Hywel Dda.

“Trwy gefnogi ein loteri, bydd ein cymunedau yn ein helpu i ddarparu’r pethau bach ychwanegol sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.”

I ymuno â’r loteri, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk. Am ffyrdd eraill o ymuno, cysylltwch ag Elusennau Iechyd Hywel Dda ar 01267 239815 neu e-bostio Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle