Mae Chris Davies, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol o’i rôl ym mis Ebrill 2022, gan ddod â’i yrfa ddisglair 37 mlynedd i ben.
Ers ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub De Morgannwg yn ôl yn 1984 ac yna symud i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn 1996, mae Chris wedi bod yn ffodus dros ben i gael gyrfa lwyddiannus mewn maes gwaith sy’n hynod heriol, boddhaus a gwerth chweil.
Ar ôl codi i reng y Pennaeth Diogelwch Cymunedol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn 2008 cafodd Chris ei benodi’n Bennaeth Corfforaethol Lleihau Risgiau Cymunedol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. O’r fan honno, a gyda diolch i dîm hynod ymroddedig bob tro, aeth ymlaen trwy’r rhengoedd i ddod yn Brif Swyddog Tân yn 2014.
Dywedodd Chris Davies, y Prif Swyddog Tân: “Mae wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn anrhydedd ac yn fraint wirioneddol i arwain ein Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae gennyf chwe mis ar ôl yn fy rôl, a byddaf yn parhau i arwain gyda’r un ymroddiad ag egni ag arfer, gan sicrhau fy mod yn cau pen y mwdwl ar lawer o’r gwaith da sy’n digwydd, ac yn dod â fy nghyfnod i ben gyda’r sicrwydd y bydd ein cymunedau’n parhau’n ddiogel a’n Gwasanaeth yn parhau’n effeithiol ac yn effeithlon.
“Roedd gwneud y penderfyniad hwn yn eithriadol o anodd, ac mae’n dod â gyrfa hir i ben yr wyf yn hynod falch ohoni.”
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Williams, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Ar ran yr Awdurdod, rwyf am fynegi fy niolch i’r Prif Swyddog Tân, Chris Davies am y cyfraniad y mae wedi’i wneud i’n Gwasanaeth. Yn ystod ei gyfnod yn Brif Swyddog Tân, mae Chris wedi cyflawni ei rôl gyda’r proffesiynoldeb mwyaf, gan sicrhau llwyddiant pellgyrhaeddol i sicrhau diogelwch parhaus y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
“Bydd ei ymddeoliad yn golled enfawr i’n Gwasanaeth, ond mae ei yrfa ddisglair yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i barhau i ddarparu Gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle