Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg

0
296
Pembrokeshire National Park

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg ar gyfer mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod fframwaith cyfreithiol sy’n rhoi dyletswydd ar bob awdurdod lleol ac Awdurdodau Parc Cenedlaethol yng Nghymru, ynghyd â Gweinidogion Cymru, i gydymffurfio â’r Safonau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg fel y gwelir yn ein Strategaeth Iaith Gymraeg 5 mlynedd, Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol a Chynllun Datblygu Lleol 2.

“Mae’r cynlluniau swyddogol hyn yn cael eu hategu gan waith dyddiol staff yr Awdurdod, o rannu gwybodaeth ar-lein, i ymweliadau ag ysgolion, digwyddiadau cyhoeddus a sesiynau gwirfoddoli.

“Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo’n llwyr i’r egwyddor o ganiatáu i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu hiaith ym mhob agwedd ar eu bywydau, ac mae’n cydnabod ei gyfrifoldeb i hwyluso a hyrwyddo’r defnydd hwn.

“Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf o ran cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac yn tynnu sylw at y meysydd lle gellir gwneud gwelliannau pellach o hyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am Safonau’r Gymraeg ewch i: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/sefydliadau-cyhoeddus/safonaur-gymraeg

I ddarllen Adroddiad Blynyddol llawn Safonau’r Gymraeg ewch i: https://www.arfordirpenfro.cymru/awdurdod-y-parc-cenedlaethol/dogfennau-corfforaethol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle