Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Philip Kloer:
“Byddwn yn trafod ein gallu i ddelio â’r pandemig parhaus ac i ofalu am y niferoedd cynyddol o blant sy’n sâl iawn, oherwydd bod feirws anadlol yn cael ei brofi ledled y wlad, yng nghyfarfod llawn nesaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 30ain Medi 2021.
“Bydd hyn yn cynnwys argymhelliad ar gyfer y cyngor cliriaf posibl i’n cyhoedd ynghylch pryd a sut y gallant gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd heb eu cynllunio ar gyfer plant.
“Nid yw’n gynnig i wneud newid pellach i wasanaethau plant yn Ysbyty Llwynhelyg, y tu hwnt i ystyried a ydym yn parhau â sefyllfa dros dro COVID-19 a roddwyd ar waith ym mis Mawrth 2020, am gyfnod pellach y cytunwyd arno.
“Roedd hyn yn cynnwys adleoli’r Uned Gofal Pediatreg yn Ysbyty Llwynhelyg i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin dros dro. Yn ystod y cyfnod hwn, os yw plentyn neu berson ifanc o dan 16 oed yn sâl neu wedi’i anafu, byddem yn gofyn i bobl ddilyn y cyngor dros dro a gyhoeddwyd y llynedd **.
“Bydd unrhyw benderfyniad ynghylch darparu gofal iechyd i blant yn ein cymuned yn seiliedig ar eu diogelwch a bydd eu diddordebau clinigol yn flaenoriaeth. Bydd angen i ni adolygu dyfodol tymor hwy gwasanaethau pediatreg, y flwyddyn nesaf, a byddwn yn ystyried ystod o ddata, gan gynnwys profiadau cleifion a theuluoedd. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â’r gymuned ac yn eu cynnwys, yn ogystal â phartneriaid gofal iechyd a chynrychiolwyr cyhoeddus, fel y gallant rannu eu barn â ni i’w hystyried.
“Bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yn dilyn cyfarfod y Bwrdd.”
* Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar-lein a gall aelodau’r cyhoedd eu gwylio. Bydd y cyfarfod nesaf am 9.30am ddydd Iau Medi 30 ac mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys dolen i’r cyfarfod i’w gweld yma: https://hduhb.nhs.wales/about-us/your-health-board/board-meetings-2021/board-agenda-and-papers-30th-september-2021/
** Cyngor i rieni a gofalwyr yn Sir Benfro os yw’ch plentyn yn sâl –
- Peidiwch ag oedi cyn ceisio cyngor a thriniaeth os yw’ch plentyn yn sâl neu wedi’i anafu.
- Fel rhan o’n hymateb i bandemig COVID-19, mae’r Uned Gofal Pediatreg (PACU) yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymateb COVID-19
- Bydd plant sydd â mân anafiadau yn dal i allu cyrchu gofal yn Llwyhelyg ond gofynnir i rieni plant sydd â symptomau anhysbys naill ai gysylltu â’u meddyg teulu lleol, gwasanaethau y tu allan i oriau trwy GIG 111 – efallai y cewch eich cynghori i fynd â’ch plentyn i Adran Frys Ysbyty Glangwili os bydd angen mewnbwn gan arbenigwyr pediatreg
- Ar gyfer plant â chyflyrau brys, gofynnir i rieni neu ofalwyr ddeialu 999.
- Ar ôl i asesiad gael ei wneud, ac os bydd angen derbyn eich plentyn i’r ysbyty, bydd staff yn egluro y gall un rhiant aros ar y ward, oherwydd cyfyngiadau yr ydym wedi’u gosod fel rhan o’n hymateb COVID-19.
- Yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, byddwn yn parhau i weld plant yn yr adran achosion brys neu eich arwain i’r ardal asesu plant. Ar ôl asesiad, ac os oes angen derbyn eich plentyn, bydd y staff yn eich cyfeirio i’r ward.
- Mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi cynhyrchu canllaw defnyddiol i rieni (https://www.rcpch.ac.uk/sites/default/files/2020-04/covid19_advice_for_parents_when_child_unwell_or_injured_poster.pdf) i ddeall pryd i ofyn am gyngor a triniaeth i’ch plentyn.
Yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, byddwn yn parhau i weld plant yn yr adran achosion brys neu eu harwain i’r ardal asesu plant. Ar ôl cael eu asesu os oes angen derbyn eich plentyn, bydd y staff yn eich cyfeirio i’r ward.
Nid oes angen i’r mwyafrif o blant sy’n mynd yn sâl ar yr adeg hon ymweld â’r ysbyty ac os yw iechyd corfforol neu feddyliol eich plentyn yn eich poeni, mae eich meddygfa neu 111 GIG Cymru hefyd ar gael i helpu. Cofiwch fod yr holl wasanaethau hyn yn dal i ddarparu’r gofal sydd ei angen arnoch chi, ond mewn gwahanol ffyrdd i helpu i’ch cadw chi a’ch plentyn yn ddiogel. Mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg a Iechyd Plant wedi cynhyrchu canllaw defnyddiol i rieni (https://www.rcpch.ac.uk/sites/default/files/2020-04/covid19_advice_for_parents_when_child_unwell_or_injured_poster.pdf) er mwyn deall pryd i ofyn am gyngor a thriniaeth i’w plentyn.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle