Elusennau Iechyd Hywel Dda ar awyr awyr gan Nyrsys Cymunedol Sir Gaerfyrddin

0
272
Yn y llun (o’r chwith) mae’r nyrsys cymunedol Tina Delaney, Carly Bailey, Mel Clark, Alice Morgan ac Anwen Thomas.

Pum nyrs gymunedol yn Sir Gaerfyrddin sy’n awyrblymio i godi arian ar gyfer eu gwasanaeth.

Mae’r tîm Hywel Dda sef Carly Bailey, Anwen Thomas, Tina Delaney, Mel Clarke ac Alice Morgan yn gobeithio codi £2,500 ar gyfer y gwasanaeth nyrsio cymunedol trwy gymryd rhan yn Diwrnod Naid Diolch yn Fawr y GIG ym Maes Awyr Abertawe ar 25ain o Fedi.

Dywedodd Alice: “Ar ôl deg mlynedd anhygoel o weithio i’r GIG pa ford well o dalu’n ôl a chodi arian ar gyfer rywbeth mor bwysig ym mywydau llawer o bobl. Rwy’n gweithio yn y tîm gofal parhaus o dan Feddygfa San Pedr, Caerfyrddin, yn cefnogi a gofalu am gleifion ag anghenion cymhleth yn eu cartrefi eu hunain. Rwy’n gyffrous i awyrblymio ond yn nerfus ar yr un pryd!”

Dywedodd Tina: “Rwy’n gweithio fel nyrs gymunedol yn Llandysul. Rwy’n gwneud y naid i roi yn ôl i’r bwrdd iechyd am y cyfleoedd anhygoel y maen nhw wedi’u rhoi i mi trwy gydol fy ngyrfa. Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i’m cefnogi gan fy mod ar fin cychwyn ar daith newydd yn cwblhau gradd nyrsio ardal. Bydd codi arian ar gyfer y gwasanaeth yn ein galluogi i brynu offer i barhau trin mwy o gleifion gartref a lleihau nifer y derbyniadau i’r ysbyty.”

Dywedodd Anwen: “Rwyf wedi gweithio o fewn y Tîm Gofal Parhaus fel Gweithiwr Cymorth Gofal iechyd am dros dair blynedd. Rwy’n angerddol dros y gwasanaeth cymunedol rydyn ni’n ei darparu a dyna pam dewisais godi arian ar gyfer yr ardal hon. Rwy’n nerfus am awyrblymio, ond yn benderfynol o’i wneud.”

Dywedodd Mel: “Rwy’n gweithio fel gweithiwr cymorth gofal iechyd cymunedol i’r GIG ac rwy’n teimlo gan fy mod wedi ennill gymaint y dylwn roi rhywbeth yn ôl. Rwy’n nerfus fy mod yn neidio allan o awyren yn 10,000 troedfedd ond rwy’n siŵr y bydd fy nghydweithwyr yn rhoi help i mi!”

Dywedodd Carly: “Rwyf wedi gweithio yn y tîm gofal parhaus ers bron 13 blynedd, ers iddo ddechrau. Nawr rwy’n hyfforddi i fod yn nyrs a gobeithio y byddaf yn gymwysedig yn yr haf y flwyddyn nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at awyrblymio ac yn gyffrous iawn.” Os hoffech gyfrannu at eu her, ewch i www.justgiving.com/crowdfunding/sky-divex5.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, ei bod yn dymuno’r gorau i’r pum nyrs gymunedol yn eu her.

Diolch a phob lwc i Carly, Anwen, Tina, Mel ac Alice,” meddai Nicola. “Mae’r rhoddion a dderbyniwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.”

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle