Elusennau Iechyd Hywel Dda ar eitemau a brynwyd ar gyfer dros 100 o fydwragedd ar draws ardal Hywel Dda

0
275
doll and knitted breast for midwifery picture - Christena Phelan O’Riordan

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu darparu bagiau sy’n cynnwys cyfarpar addysgu ar gyfer bwydo babanod i dros 100 o fydwragedd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae pob bag yn cynnwys doli a bron wedi’i gwau, fel y gall y bydwragedd roi cyngor i famau newydd a darpar famau ynghylch bwyd ar y fron, ynghyd â chardiau gwybodaeth wedi’u laminiadu.

Mae pob bydwraig gymunedol ledled y tair sir, yn ogystal â’r unedau mamolaeth yng Nglangwili a Bronglais, wedi cael y bagiau.

Dywedodd Cydgysylltydd Bwydo Babanod Hywel Dda, Christena Phelan O’Riordan (ym mlaen y llun), fod y doliau a’r bronnau yn gymhorthion addysgu eithriadol o ddefnyddiol.

“Mae cael y cymhorthion gweledol hyn wedi gwneud cymaint o wahaniaeth wrth i ni roi cyngor ar fwydo ar y fron i famau beichiog ac ôl-enedigol.

“Mae’r cymhorthion hyn yn offer gwych pan fyddwn yn addysgu am fwydo ar y fron, boed hynny wyneb yn wyneb yn yr ysbyty neu gartref, neu yn rhithwir trwy alwadau WhatsApp.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae rhoddion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion, defnyddwyr y gwasanaeth a staff yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth yr ydym yn ei gael gan ein cymunedau lleol.”

I gael manylion am yr elusen a’r modd y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle