Gwerth £200K o sigaréts anghyfreithlon wedi’u meddiannu yng Nghymru

0
245

Mae MILIWN o sigaréts anghyfreithlon gyda gwerth stryd sy’n fwy na £200,000 wedi cael eu meddiannu yng Nghymru fel rhan o ymgyrch o bwys ar farchnad tybaco anghyfreithlon y wlad.

Llwyddwyd i gyrraedd y garreg filltir gan Dimau Safonau Masnach Cymru oedd yn cymryd rhan yn Ymgyrch CeCe, menter barhaus gan Safonau Masnach Cenedlaethol mewn partneriaeth gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon.

Maen nhw’n dweud fod y casgliad a feddiannwyd yn ystod y cyrchoedd a gynhaliwyd yng Nghymru, yn cynnwys 1,039,046 o sigaréts a 3,377.6 cwdyn o dybaco rholio â llaw, gyda chyfanswm gwerth o £286,782.30 ar y stryd – arian a fyddai fel arall wedi bod ym mhocedi gangiau troseddol.

Byddai llawer o’r sigaréts a feddiannwyd wedi diweddu yn nwylo plant a phobl ifanc o fewn cymunedau tlotaf Cymru sy’n cael eu targedu gan droseddwyr yn gwerthu tybaco anghyfreithlon. Dengys tystiolaeth fod cyflenwadau tybaco anghyfreithlon mewn 17 allan o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru a bod cyrchoedd meddiannu wedi’u cynnal mewn 12 ardal hyd yn hyn.

Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: “Mae’r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn creu ffynhonnell rad o dybaco i blant a phobl ifanc. Mae’n tanseilio’r holl waith da a wneir i atal pobl rhag ysmygu ac mae cysylltiadau cryf gan y fasnach tybaco anghyfreithlon fwy aml na pheidio gyda gweithgaredd troseddol.”

Yng Nghymru, mae 8% o bobl ifanc 15 a 16 mlwydd oed yn parhau i ysmygu ar sail reolaidd – ffigwr nad yw wedi gostwng ers 2013. Mae oddeutu 6,000 o blant yng Nghymru yn dechrau ysmygu pob blwyddyn a bydd tri allan o bedwar o’r plant hynny yn mynd ymlaen i fod yn ysmygwyr tymor hir.

Mae ysmygu yn ddibyniaeth sy’n dechrau mewn plentyndod a chanfu arolwg diweddar gan ASH Cymru fod 76% o ysmygwyr yng Nghymru wedi rhoi cynnig ar eu sigarét gyntaf cyn bod yn 18 mlwydd oed.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Swyddog Gweithredu ASH Cymru: “I nifer o blant, bydd prynu eu pecyn cyntaf o sigaréts anghyfreithlon yn gychwyn ar ddibyniaeth gydol oes a fydd yn dinistrio eu hiechyd, yn eu harwain i mewn i dlodi ac a fydd yn eu lladd yn y pendraw.

“Mae rhoi terfyn ar y fasnach angheuol hon yn rhan hanfodol o ostwng nifer yr achosion o ysmygu yng Nghymru sy’n sefyll ar 18% o’r boblogaeth oedolion ar hyn o bryd ac yn arwain at fwy na 5,000 o farwolaethau pob blwyddyn.

“Rydym yn croesawu unrhyw weithredu a wneir i waredu â thybaco anghyfreithlon o fewn ein cymunedau ac yn gobeithio y bydd hyn yn parhau i ffurfio rhan o unrhyw strategaeth i fynd i’r afael ag anghyfartaledd iechyd Cymru.”

Ers lansio’r ymgyrch ym mis Ionawr 2021, mae Safonau Masnach a’r HMRC wedi bod yn casglu gwybodaeth ar gangiau tybaco troseddol ac yn bwriadu cynnal rhagor o gyrchoedd led led Cymru yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

“Rydym angen cadw tybaco allan o ddwylo plant. Mae cynnyrch tybaco rhad yn ei gwneud hi’n haws i blant ddechrau ysmygu, gan ei fod yn cael ei werthu am brisiau arian poced gan droseddwyr nad ydynt yn malio am gyfreithiau cyfyngiadau oedran,” dywedodd Helen Picton.

Dywedodd yr Arglwydd Toby Harris, Cadeirydd Safonau Masnach Cenedlaethol: “Mae’r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn niweidio cymunedau lleol ac yn effeithio ar fusnesau gonest sy’n gweithredu o fewn y gyfraith. Mae’r fenter Safonau Masnach Cenedlaethol mewn partneriaeth â’r HMRC yn chwarae rôl arwyddocaol wrth aflonyddu ar y fasnach anghyfreithlon hon ac yn helpu i gymryd cynnyrch tybaco anghyfreithlon oddi ar y strydoedd.”

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles: “Rydym yn ymroddedig tuag at roi terfyn ar werthu a defnyddio tybaco anghyfreithlon. Mae’r ffaith ei fod ar gael yn ei gwneud hi’n haws i blant ddechrau ysmygu, yn anoddach i’r sawl sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu ac yn cyflwyno troseddwyr i mewn i’n cymunedau lleol.

“Mae Ymgyrch CeCe wedi arwain at y gweithgareddau atal mwyaf ar dybaco anghyfreithlon yng Nghymru ers datganoli. Rydym yn cefnogi gwaith parhaus yr HMRC a Safonau Masnach Cymru. Fe fyddwn yn lansio ymgyrch tybaco anghyfreithlon yn fuan i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus ac annog adrodd ar dybaco anghyfreithlon.”

Os ydych yn meddwl fod rhywun yn gwerthu tybaco anghyfreithlon, ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111 neu edrych ar http://crimestoppers-uk.org a dweud wrthynt yr hyn yr ydych yn ei wybod. Gall eich gwybodaeth helpu cadw eich cymuned yn ddiogel ac yn iach.

Os ydych eisiau rhoi’r gorau i ysmygu, ffoniwch Helpa fi i Stopio (Help Me Quit) ar radffon 0800 085 2219 neu edrychwch ar https://www.helpmequit.wales/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle