“Tir Cyffredin” yng Nghaerdydd: Plaid Cymru a’r Blaid Werdd yn cyhoeddi cynghrair etholiadol newydd

0
300

  • Mae Plaid Cymru a’r Blaid Werdd wedi cyhoeddi eu bod am ffurfio cynghrair etholiadol newydd i Gaerdydd.
  • “Mae’r heriau sy’n wynebu ein prifddinas yn rhai brys ac yn gofyn am ffyrdd newydd o feddwl” meddai arweinydd Plaid Werdd Cymru
  • Bydd maniffesto ar y cyd yn cynnwys amddiffyn a gwella mannau gwyrdd, tai tecach, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a rhoi pŵer democrataidd go iawn i gymunedau.

Heddiw mae Plaid Cymru a’r Blaid Werdd wedi cyhoeddi y bydd cynghrair etholiadol newydd yn cael ei ffurfio ar gyfer etholiadau’r cyngor y flwyddyn nesaf yng Nghaerdydd.

Yn yr hyn sy’n ddatblygiad arloesol ar gyfer etholiadau yng Nghaerdydd, mae ymgyrchwyr wedi cyhoeddi y bydd y gynghrair yn gweithio gyda’i gilydd fel plaid unedig ar draws wardiau’r ddinas wrth weithio tuag at ddiwrnod yr etholiad.

Bydd amddiffyn a gwella mannau gwyrdd cyhoeddus, tai tecach, mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd, a rhoi pŵer democrataidd go iawn i gymunedau yn ymddangos mewn maniffesto ar y cyd, a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae’r fenter wedi deillio o bryderon cyffredin ymhlith aelodau’r pleidiau ac ymgyrchwyr yn y brifddinas, gan alw am ddull mwy blaengar a chynhwysol o wneud penderfyniadau lleol. Mae’r gynghrair yn cynnwys gweithredwyr llawr gwlad annibynnol o’r tu allan i Blaid Cymru a’r Blaid Werdd, sy’n rhannu tir cyffredin gyda’r pleidiau ar faterion ymgyrchu hanfodol yn y ddinas.

Mae gwaith bellach ar y gweill i sefydlu rhestri ar y cyd o ymgeiswyr ledled y ddinas er mwyn darparu dewis etholiadol cadarnhaol yn lle corff gweinyddol presennol y ddinas.

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru,

“Mae cydweithio ag eraill i ddod â’r gynghrair gyffrous hon at ei gilydd cyn etholiadau Cyngor Caerdydd y flwyddyn nesaf wedi bod yn ysbrydoledig. Ar adeg o Argyfwng Hinsawdd ac Amgylcheddol ac anghydraddoldeb cynyddol, mae gwleidyddiaeth ‘Busnes fel Arfer’ yn methu ein cymunedau ar bob lefel o lywodraeth. 

Nid yw geiriau cynnes ac uchelgeisiau amwys gan gynrychiolwyr etholedig yn ddigon bellach gan fod Caerdydd yn dioddef o golli mwy a mwy o fannau gwyrdd cyhoeddus gwerthfawr, gor-ddatblygu amhriodol a phenderfyniadau chynllunio sydd yn aml yn mynd yn erbyn anghenion y cymunedau yr effeithir arnynt.

Mae Plaid Werdd Cymru o’r farn y dylai pŵer a phenderfyniadau gael eu datganoli bob amser i’r lefel leol fwyaf priodol, a chredwn y bydd y gynghrair hon ar feysydd tir cyffredin yn rhoi cyfle i bleidleiswyr Caerdydd bleidleisio dros newid gwirioneddol a chynrychiolaeth gymunedol wirioneddol. 

Mae’r heriau sy’n wynebu ein prifddinas yn rhai brys ac mae angen ffyrdd newydd o feddwl. Y wleidyddiaeth gydweithredol ‘aeddfed’ hyn yw’r newid sydd ei angen.”

Dywedodd Rhys ab Owen AS, sydd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau i ffurfio’r gynghrair:

“Mae Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn falch o fod yn rhan o’r cyhoeddiad hwn am gynghrair wleidyddol newydd yn ein prifddinas. Y dewis etholiadol newydd hwn yw’r newid sydd ei angen ar Gaerdydd, gan gynnig llais gwleidyddol newydd i gymunedau drwy sefyll o dan un enw ar y cyd ar y papur pleidleisio. 

Mae hyn yn ymwneud â chydnabod tir cyffredin rhwng ein pleidiau a’n hymgyrchwyr, a chydweithio i wneud gwleidyddiaeth mewn ffordd newydd a mwy cydweithredol, gan gydnabod yr angen am rym gwleidyddol newydd a fydd yn diogelu ac yn meithrin popeth sy’n dda am Gaerdydd, ac a fydd yn ateb her yr argyfwng hinsawdd a’r gor-ddatblygiad di-hid a di-wyneb a welwn mewn rhannau o’r ddinas. 

Rydym wrthi’n estyn allan at y rhai o’r tu allan i wleidyddiaeth a allai rannu ein gwerthoedd ac sy’n gallu gwneud gwahaniaeth.” 

Gwahoddir y rhai sy’n dymuno ymuno â’r ymgyrch i gysylltu â ni trwy post@commonground.cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle