fflecsi i wella gwasanaeth Bwcabus Gorllewin Cymru

0
299

Newyddion Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ehangu’r gwasanaeth bws fflecsi ymhellach, gan gyrraedd rhan arall o Gymru.

Y tro hwn, mae TrC yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin yn ogystal â Chyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion drwy’r cynllun LINC II i wella’r gwasanaeth Bwcabus poblogaidd iawn sy’n dathlu 12 mlynedd o weithredu yr hydref hwn.

Bydd fflecsi Bwcabus yn dod â thechnoleg ychwanegol i’r gwasanaeth drwy ddarparu ap fflecsi, gan eich galluogi chi i archebu a dilyn eich taith, yn ogystal ag archebu dros y ffôn drwy ganolfan alwadau TrC.

Gallwch dalu ar y bws gyda cherdyn neu arian parod, mae cardiau teithio rhatach a Fy Ngherdyn Teithio hefyd yn ddilys ar fflecsi Bwcabus. Mae’r gwasanaeth newydd yn golygu y byddwch yn gallu archebu’r bws drwy’r ap yn ogystal â thros y ffôn.  A’r unig wahaniaeth arall yw y bydd y rhif ffôn i archebu yn newid i 0300 234 0300 – codir tâl ar gyfradd leol, fodd bynnag bydd modd ei ffonio am ddim o ffonau symudol neu linellau tir gyda munudau/galwadau cynhwysol.

Mae’r ganolfan alwadau ar agor rhwng 6.00am ac 11.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 9.00am a 7.00pm ar ddydd Sul.

Gallwch archebu teithiau unffordd neu ddwyffordd o hyd at 28 diwrnod ymlaen llaw hyd at awr cyn i chi fod eisiau teithio.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Bwcabus yn wasanaeth poblogaidd sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan bobl Sir Gaerfyrddin a thu hwnt, drwy gefnogi’r gwasanaeth hwn gyda’r ap fflecsi a chanolfan alwadau TrC, byddwn yn ceisio denu hyd yn oed rhagor o deithwyr i fflecsi Bwcabus. Mae’r gwasanaeth arloesol hwn yn rhan bwysig o Trafnidiaeth Cymru a gweledigaeth Llywodraeth Cymru i leihau’r defnydd o geir a hyrwyddo ffyrdd mwy gwyrdd o deithio, ar yr un pryd â chefnogi’r economi leol a sicrhau mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.”

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae’n bleser mawr gennym weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar y datblygiad newydd hwn. Fel rydym wedi’i weld dros y 12 mlynedd diwethaf gyda Bwcabus, mae trafnidiaeth ar alw wedi bod yn boblogaidd iawn yma a chredwn fod hwn yn gyfle gwych i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth a darparu gwasanaethau bws i’n trigolion sy’n rhoi mwy o ddewis a hyblygrwydd ar gyfer eu teithiau. Rwy’n siŵr y bydd fflecsi Bwcabus yn parhau i fod yn boblogaidd ymysg teithwyr ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n addas ar gyfer heddiw a’r dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid yng Nghyngor Sir Ceredigion: “Mae fflecsi yn ychwanegiad newydd cyffrous at wasanaethau bysiau ein rhanbarth, gan roi mwy o ffyrdd i deithwyr archebu a mwy o reolaeth dros y ffordd maen nhw’n symud o gwmpas drwy roi mynediad at ddewisiadau teithio dibynadwy a hyblyg.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Phil Baker, Aelod Cabinet dros Seilwaith ar gyfer Cyngor Sir Penfro: “Mae gwasanaeth fflecsi TrC wedi dangos sut gall trafnidiaeth sy’n ymateb i alw chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhannau eraill o Sir Benfro eisoes, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn chwarae rhan yn y gwaith o wella’r gwasanaeth newydd arloesol hwn a dysgu gan y cwsmeriaid a’r adborth gweithredol a ddarperir gan y dechnoleg newydd”.

Bydd y gwasanaeth fflecsi Bwcabus yn gweithredu ar draws y llwybrau sydd eisoes yn bodoli yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae cynllun LINC II wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am y gwasanaeth, map o’r parth fflecsi a sut mae archebu, ewch i https://www.bwcabus.info neu https://fflecsi.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle