Galwad am gynigion – enwebwch y cyfraniadau rhagorol i ddiwydiannau’r amgylchedd a’r tir – Enwebiadau yn agor 1 Hydref 2021
Mae Lantra Cymru wedi darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer diwydiannau’r amgylchedd a’r tir. I ddathlu hyn mae Lantra Cymru yn cynnal seremoni wobrwyo unigryw nos Iau, 24 Chwefror 2022 yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod.
Ymhlith cyflwynwyr y seremoni mae cyflwynydd BBC Cymru Rachael Garside ac Aled Rhys Jones, Ymgynghorydd Busnes Gwledig ac Ysgolor Ffermio Nuffield. Cyhoeddwyd hefyd mai’r cwmni cynhyrchu amlgyfrwng blaenllaw Telesgop, fydd partner cyfryngau’r gwobrau.
Bydd y seremoni wobrwyo’n dod â phartneriaid, sefydliadau ac unigolion allweddol eraill ynghyd i gydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy’n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a’r tir.
Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru,
“Mae Gwobrau Lantra Cymru yn darparu llwyfan i gydnabod a dathlu’r cyfraniadau rhagorol y mae unigolion wedi’u gwneud yn sectorau’r amgylchedd a’r tir yng Nghymru.
“Os ydych chi’n adnabod unigolion sy’n haeddu cydnabyddiaeth yn eu maes, yna cynigiwch eu henwau a helpwch i ddathlu llwyddiannau eleni. Hoffem annog pob unigolyn, coleg a sefydliad i gymryd rhan a dechrau enwebu nawr!”
“Rydym ni hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyswllt Ffermio wrth helpu i gynnal y Gwobrau.”
Mae 10 categori o wobrau sy’n cwmpasu nifer eang o sectorau tir ac yn adeiladu ar brosiectau newydd sydd ar waith mewn garddwriaeth ac iechyd a lles anifeiliaid.
Ymhlith y categorïau mae Dysgwr Coleg y Flwyddyn (20 oed ac iau), Dysgwr Coleg y Flwyddyn (21 oed a hŷn), Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio (dan 40 oed a thros 40 oed), Gwobr Arloeswr Fferm Cyswllt Ffermio, a’r Wobr Cyfraniad Oes. Gellir gweld y rhestr lawn o gategorïau cymwys a’u meini prawf ar wefan Lantra Cymru.
Bydd enillwyr y gwobrau a’r rhai sy’n agos at y brig yn cael eu cofrestru ar raglen newydd Llysgenhadon Lantra Cymru i hyrwyddo datblygiad sgiliau yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yng Nghymru. Bydd cyfuniad o adnoddau a chodi ymwybyddiaeth anffurfiol ar gael i bob llysgennad yn ystod y flwyddyn.
Mae cystadlu yn rhad ac am ddim, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Tachwedd 2021. Bydd y beirniadu yn digwydd ar 13 a 14 Rhagfyr gan banel rhithwir o feirniaid arbenigol.
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Lantra Cymru ac i gyflwyno eich enwebiadau, ewch i www.wales.lantra.co.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle