Mae teuluoedd rhoddwyr organau yn dathlu dadorchuddio cerflun

0
250
Kingfisher sculpture with Designer, Paul Clarke

Dadorchuddiwyd cerflun yng Ngardd Fotaneg Cymru fel rhan o Wythnos Rhoi Organau.

Cynhaliwyd y digwyddiad arbennig i godi ymwybyddiaeth o roi organau, ac i gydnabod teuluoedd rhoddwyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac ar draws Cymru.

Mae’r cerflun yn darlunio Glas y Dorlan yn codi o’r twr, yn cynrychioli twf, bywyd a gobaith. Gellir dod o hyd iddo ym mhrosiect pwll newydd yr ardd fotaneg.

Ymhlith y rhai a fynychodd y dadorchuddio roedd Jesse Lewis o Gastell-nedd, a siaradodd am sut yr oedd rhoi organau yn effeithio ar ei deulu ar Ă´l i’w fab Jac, yn anffodus, gymryd ei fywyd ei hun.

Dywedodd: “Llenwyd dyddiau olaf bywyd Jac â gobaith i ni, a phan aethpwyd a hynny i ffwrdd, meddyliais ar unwaith am drawsblaniadau.

“Mae cymaint o bobl yn aros ac yn gobeithio am y cyfle i barhau i fyw bywyd arferol.”

Yn dilyn hyn, sefydlodd Jesse a’i wraig Janet y Jac Lewis Foundation, elusen i helpu pobl sy’n dioddef o faterion iechyd meddwl.

Ychwanegodd: “Mae’n cynnig gobaith, a chredaf mai hyn yw’r cynhwysyn sy’n rhoi’r frwydr y tu mewn iddynt i barhau.

“Ni fydd unrhyw beth sydd wedi’i gyflawni hyd yma byth yn atal y boen o golli Jac fel y bydd unrhyw un sydd wedi colli rhywun mor agos yn gwybod.

“Fodd bynnag, mae troi’r poen honno’n obaith rhywun arall, yn rhoi ystyr i’w fodolaeth, gan wybod bod ei fywyd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl eraill.”

Dywedodd Rea John, Nyrs Arbenigol yn Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG : “Er ein bod wedi cael system optio allan yng Nghymru ers bron i chwe blynedd, ymgynghorir â theuluoedd bob amser cyn i roi organau fynd yn ei flaen.

“Mae’n bwysig gwneud eich penderfyniad yn hysbys i’ch teulu a’ch ffrindiau, fel eu bod yn gwybod beth rydych chi moen ddigwydd pe bau rhoi organau yn bosibilrwydd.

“Siaradwch â’ch teulu heddiw, mae’n ei gwneud ychydig yn haws iddyn nhw os ydyn nhw byth yn y sefyllfa honno.”

Dyluniwyd y cerflun gan yr artist lleol Paul Clarke, a defnyddiodd ddeunyddiau o tair sir Hywel Dda i gynnal y cysylltiad â’r bwrdd iechyd.

“Mae’n deyrnged i ddiolch i’r teuluoedd sydd, yn eu hamser tywyllaf, yn canfod y cryfder i gefnogi a helpu i achub bywydau pobl eraill,” meddai Rea.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle