Gwaith celf disgyblion yn cael ei arddangos yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd i nodi dadorchuddio cofeb Betty Campbell

0
416
Inspired by Betty Photographer: Cardiff Metropolitan University

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi gwahodd disgyblion
Ysgol Gynradd Mount Stuart, cyn-ysgol Betty Campbell, i arddangos eu gwaith celf
fel rhan o arddangosfa arbennig i nodi dadorchuddio’r gofeb sydd wedi’i chysegru i
Bennaeth croenddu cyntaf Cymru.

Yn dilyn pleidlais gyhoeddus yn 2019, mae dathliadau i nodi dadorchuddio cofeb
gyntaf Cymru i Gymraes a enwyd yn cael eu cynnal ledled y ddinas, gan gynnwys
arddangosfa arbennig ar hen gampws y coleg addysg lle cychwynnodd Betty ei gyrfa
addysgu.

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Mount Stuart, lle bu Betty’n dysgu am bron i 30
mlynedd, wedi curadu arddangosfa newydd i nodi ei bywyd rhyfeddol, yn dilyn cyfres
o ddosbarthiadau’n bwrw golwg dros ei bywyd addysgu a dinesig.

Gan hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol y wlad trwy gydol ei hoes, fe heriodd
Betty Campbell ei beirniaid trwy ddod yn rym aruthrol ym myd addysg a gwleidyddol
Cymru.

Yn enedigol o Butetown, cafodd Betty ei magu yn nociau Caerdydd, yr enwog Tiger
Bay. Gan ennill ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd Lady Margaret i Ferched yng
Nghaerdydd, fe wnaeth angerdd Betty am addysg arwain ati’n dod yn un o’r
menywod cyntaf i gael ei derbyn i Goleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd (Ysgol
Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd bellach), cyn dod yn athrawes a
Phennaeth du cyntaf Cymru – gan gychwyn cenhadaeth gydol oes i wreiddio
treftadaeth amlddiwylliannol Cymru yn addysgu’r blynyddoedd cynnar.

Wrth sôn am y dadorchuddio, dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor Met
Caerdydd: “Mae dylanwad Betty Campbell i’w deimlo ar draws y sector addysg yma
yng Nghymru ac o amgylch y DU.

“Angerdd a chred mewn addysg yw’r hyn sy’n gyrru llawer ohonom i addysgu. I
Betty, roedd chwalu’r rhwystrau hynny i fynd i mewn i’r proffesiwn addysgu yn dasg
anoddach ar y pryd. Talodd ei phenderfyniad ar ei ganfed a daeth yn rym aruthrol ac
yn eiriolwr dros bŵer addysg. Talodd ei phenderfyniad i ffwrdd a daeth yn rym
aruthrol ac yn eiriolwr dros bŵer addysg i drawsnewid bywydau.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gallu ymuno â’r dathliadau fel hyn, gan rannu gwaith
gan ddisgyblion o hen ysgol Betty lle mae ei phresenoldeb yn parhau yn y gwaddol a
erys ar ei hôl.”

Dywedodd Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd:
“Roedd Betty Campbell yn gawr yn y gymuned addysg, ac mae’n parhau felly.

Profodd ei amheuwyr yn anghywir, ac mae ei phenderfyniad yn parhau i fod yn
ffynhonnell o ysbrydoliaeth i athrawon, disgyblion, a’r cwricwlwm heddiw.

“Roedd ei gwaith i ddod â straeon amlddiwylliannol y gymuned, a’i bywyd ei hun, yn
flaenllaw yn nysg yr ystafell ddosbarth yn chwyldroadol, ac mewn sawl ffordd, mae
hynny wedi gosod sylfaen ar gyfer y gwaith a wneir heddiw i annog mwy o
amrywiaeth ar draws y sector.

“Mae golau Betty’n disgleirio, a bydded i’w delfrydau barhau i ysbrydoli am amser
hir.”

Bydd yr arddangosfa’n rhedeg rhwng 27 Medi – 01 Hydref yn Ysgol Gelf a Dylunio
Caerdydd.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle