Y ffermwr a chyflwynydd teledu Adam Henson i brofi Blas Cymru

0
346
CC Wales - Credit Crown Copyright

Bydd y digwyddiad yn gyfle i feddwl am ddiogelu diwydiant bwyd a diod Cymru ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.

Adam Henson – Credit Cotswold Farm Park

Mis nesaf bydd digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru BlasCymru/TasteWales yn ôl, gan ddod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd ynghyd i arddangos cynnyrch o safon fyd-eang er mwyn agor cyfleoedd masnach newydd.

Dyma un o’r cyfleoedd cyntaf yng nghalendr diwydiant bwyd Cymru i groesawu prynwyr yn ôl yn ddiogel a hynny yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd, i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn niwydiant bwyd a diod Cymru.

CC Wales – Credit Crown Copyright

Un o brif atyniadau’r digwyddiad yw’r gynhadledd, ‘Bwyd a Diod ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’. Bydd arbenigwyr cynaliadwyedd a newid hinsawdd amlwg yn anelu i ysbrydoli cynrychiolwyr i weithredu yn eu sefydliadau a’u bywydau bob dydd i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil newid hinsawdd 

Un o brif siaradwyr gwadd y gynhadledd yw un o ffermwyr mwyaf adnabyddus y DU a’r cyflwynydd teledu, Adam Henson. Mae’n cyflwyno i filiynau o wylwyr bob nos Sul, ond ffermio a chadwraeth yw cariad cyntaf Adam.

Caiff y gynhadledd ei hagor gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS, a’i harwain gan Sara Edwards – un o gyflwynwyr teledu mwyaf adnabyddus a hoffus Cymru.

Taste Wales – Credit Taste Wales

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths:

“Mae BlasCymru yn gyfle gwych i fusnesau arddangos y cynnyrch bwyd a diod gorau gaiff ei gynhyrchu yma yng Nghymru. Rwy’n hynod o falch bydd Adam Henson yn arwain rhaglen y gynhadledd ac rwy’n siŵr y bydd ei wybodaeth a’i angerdd yn ysbrydoli’r gynulleidfa. Mae llawer o waith caled wedi mynd mewn i baratoadau’r digwyddiad eleni ac edrychaf ymlaen at gwrdd â phawb yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ym mis Hydref.”

Ymhlith y themâu allweddol yn y gynhadledd eleni mae ‘sut mae Cymru yn mynd i’r afael â’r her gynaliadwyedd’ a ‘gwneud gweithgynhyrchu bwyd yn fwy cynaliadwy’. Mike Berners-Lee, yr arbenigwr ar gynaliadwyedd ac ôl troed carbon ac awdur llyfrau fel; There is No Planet B: A Handbook for the Make of Break Years; a How Bad Are Bananas? The Carbon Footprint of Everything, fydd yn mynd i’r afael â’r themâu hyn.

Taste Wales – Credit Taste Wales

Yn ogystal â’r gynhadledd, bydd cyfle i rwydweithio a chwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant mewn parthau arbennig gan gynnwys Arloesi, Sgiliau a Busnes, Rhwydwaith Clwstwr, Twristiaeth, Rhyngwladol, Cynaliadwyedd, Buddsoddwyr, Arloesi a Gweithgynhyrchu.

Caiff y digwyddiad deuddydd, a noddir gan un o’r enwau mwyaf yn niwydiant bwyd a diod y DU, Princes Limited, ei gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd, ar 27 a 28 Hydref 2021. Mae tocynnau ar gael o www.tastewales.com. 

Nodiadau i’r Golygydd

•        Trefnir BlasCymru/TasteWales gan Bwyd a Diod Cymru, Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru.

•        Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cefnogi Bwyd a Diod Cymru i gyflwyno’r gynhadledd ‘Bwyd a Diod ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle