A ydych chi’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim y gaeaf hwn?

0
282
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pawb sy’n gymwys yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gael eu brechlyn ffliw GIG am ddim wrth i ni gyrraedd tymor y gaeaf.

Mae’r ffliw yn lledaenu’n hawdd a gall fod yn ddifrifol iawn. Yr hydref a’r gaeaf hwn efallai y gwelwn COVID-19 a’r ffliw yn cylchredeg ar yr un pryd, a dyna pam ei bod yn bwysig iawn cael ein hamddiffyn. Mae cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun a’r rhai rydych chi’n gofalu amdanynt rhag ei ddal neu ei ledaenu.

Mae meddygon teulu, fferyllwyr a staff y GIG ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi gweithio’n galed i baratoi ar gyfer rhaglen brechu rhag y ffliw eleni; i sicrhau ei fod yn ddiogel pan fyddwch chi’n derbyn eich brechlyn ffliw a’i fod ar gael i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o gymhlethdodau’r ffliw mor gynnar â phosibl.

Mae’r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor, yn feichiog, neu’n hŷn. Yn gyffredinol, y bobl sydd â risg uchel o COVID-19 yw’r un bobl sydd â risg uwch o fynd yn sal iawn gyda’r ffliw.

Gallwch gael brechlyn ffliw GIG am ddim gan eich meddygfa neu fferyllfa gymunedol os ydych chi:

  • Yn blentyn dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2021)
  • Plant a phobl ifanc yn y blynyddoedd ysgol Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11
  • 50 oed neu’n hŷn
  • Dros 6 mis oed ac mae gennych gyflwr iechyd hirdymor sy’n eich rhoi mewn risg uwch o’r ffliw
  • Yn feichiog
  • Preswylydd cartref gofal
  • Yn ofalwr
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion/cleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Yn byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd dan fygythiad

Mae mwy o wybodaeth am gymhwysedd, a chwestiynau cyffredin eraill ar gael ar – https://icc.gig.cymru/brechlynffliw.

Os ydych chi’n gymwys i gael y brechlyn ffliw, fe’ch gwahoddir gan eich meddygfa, felly mae’n bwysig bod eich manylion yn eich meddygfa yn gyfredol.

Bydd plant a phobl ifanc ym mlynyddoedd ysgol dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn cael cynnig y brechlyn ffliw trwynol gan dîm nyrsio ysgol Hywel Dda, ar ôl derbyn ffurflenni caniatâd gan eu rhieni neu eu gwarcheidwaid.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn BIP Hywel Dda: “Eleni, mae’n bwysicach nag erioed i gael eich brechlyn ffliw os ydych chi’n gymwys oherwydd efallai y byddwn ni’n gweld COVID-19 a’r ffliw yn cylchredeg.”

“Mae ein timau wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y clinigau ffliw yn ddiogel, a byddwn yn eich annog i fynd am eich apwyntiad brechlyn ffliw pan gewch eich gwahodd i sicrhau eich bod chi a’ch anwyliaid yn cael eich amddiffyn y gaeaf hwn.”

Os nad ydych chi yn y grwpiau cymwys ar gyfer y brechlynnau ffliw, gallwch amddiffyn eich hun y gaeaf hwn trwy gael y brechlyn ffliw yn eich fferyllfa agosaf am dâl bach. Gallwch ddod o hyd i’ch fferyllfa leol yma – https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

Trwy amddiffyn eich hun. Byddwch yn helpu i gadw’ch anwyliaid, a Chymru’n ddiogel.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle