Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godwr arian sioe lori Sir Benfro

0
245
Celtic Truck Show

Cododd cwpl o Sir Benfro, Chris Williams a Suzanne Evans, £2,000 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg trwy lwyfannu sioe lori ar faes sioe’r sir.

Denodd y Celtic Truck Show fwy na 150 o loriau ar gyfer diwrnod gwych i’r teulu dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst.

Dywedodd Chris o Hwlffordd a Suzanne o Aberdaugleddau: “Rydym yn dîm sydd ag angerdd dros loriau ac eisiau gwneud rhywbeth i gefnogi achos da.

“Fe wnaethon ni gynnal y sioe i gefnogi ein GIG lleol, gan fod yr holl staff yn gwneud gwaith gwych ac wedi gweithio mor galed, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Aeth y digwyddiad yn dda iawn. Roeddem ond yn disgwyl 80 i 100 o loriau a daeth rhwng 150 a 180. Fe godon ni gymaint mwy o arian nag yr oeddem ni’n gobeithio ac rydyn ni’n gobeithio cynnal un arall dros ŵyl y banc mis Mai yn 2022.

“Rydyn ni mor ddiolchgar i bawb a fynychodd ac a gefnogodd y sioe. I’r cyhoedd, ein noddwyr a gyrwyr y lorïau, ni allwn ddiolch digon i chi.”

Cododd y digwyddiad gyfanswm o £4,000 – gyda £2,000 yn mynd i Ysbyty Llwynhelyg a £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod am ddiolch i Chris a Suzanne am godi arian.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau’n ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle