- TOTALLY MOTORSPORT FESTIVAL yn cychwyn ym mis Awst 2022,
- Cymysgedd o weithgareddau chwaraeon modur pedair olwyn a dwy olwyn, fel rhan o ŵyl hwylus i’r teulu yng Nghymru/Gogledd Orllewin y DU.
Bydd y trac Cymraeg Trac Môn yn gartref i ŵyl newydd sy’n dathlu chwaraeon modur mewn ffurf amrywiol yn ystod yr haf flwyddyn nesaf.
O ddydd Gwener 19eg hyd at ddydd Sul 21ain Awst 2022, bydd Totally Motorsport Festival yn arddangos lleoliad godidog Trac Môn i’r eithaf, gan ddefnyddio gwahanol gyfluniadau o’r trac a’i gyffiniau gan gynnwys cerbydau cystadlu o bob math – bydd y rhain i’w gweld ar y trac yn ogystal â chael eu harddangos.
Nod yr ŵyl yw cael rhywbeth ar gyfer bob unigolyn sy’n frwdfrydig am y byd moduro – a’u teuluoedd – bydd hyn yn cynnwys ymdrin â pheiriannau rasio, rali, beiciau modur a digwyddiadau cyflymdra – cyfredol a hanesyddol.
“Rydyn ni eisiau creu rhywbeth ychydig yn wahanol – felly bydd Totally Motorsport Festival mor rhyngweithiol â phosib,” eglura Festival MD, Graeme Glew. “Nid yw pobl yn unig eisiau gweld y rasys a chael gweld rhywbeth gwych, ond hefyd eisiau cymryd rhan eu hunain. Felly, bydd y penwythnos yn cynnwys sesiynau pwrpasol lle gall ymwelwyr wneud defnydd o’r trac mewn sawl ffordd –ein nod yw diddanu teuluoedd drwy’r penwythnos drwy wneud pob diwrnod yn wahanol.”
Felly bydd Trac Môn yn cael ei defnyddio yn ei holl ogoniant yn ystod penwythnos Totally Motorsport Festival.
Mae’n bosib ei redeg fel dau drac ar wahân yn ogystal â thrac cyfunol. Hefyd, mae gan Trac Môn drac MotoX pwrpasol.
Cymru yw canolbwynt traddodiadol Rali yn y DU a bydd Totally motorsport Festival yn sicrhau bod Rali yn amlwg iawn dros y penwythnos, gyda nifer o weithgareddau pwrpasol sy’n canolbwyntio ar Rali fel rhan o raglen yr ŵyl.
Bydd amrywiaeth o atyniadau eraill i’w weld dros y penwythnos er mwyn sicrhau penwythnos teuluol. Bydd llawer i’w wneud – gyda cherddoriaeth byw, pentref o stondinau masnachola gweithgareddau eraill i ddenu ymwelwyr i ffwrdd o’r gweithgareddau moduro. Bydd Totally Motorsport hefyd yn cynnwys dewis eang o fwyd a diod – llawer ohono’n lleol. Digon o ddewis i’r teulu i gyd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle